Mewn cyfres newydd, rydyn ni'n ymchwilio i achosion o stelcian. Mae mam i dri o blant yn disgrifio sut wnaeth hi ddiodde' ymgyrch o aflonyddu gan gyn-bartner, ac mae'r cyn-gyflwynydd tywydd Siân Lloyd yn datgelu bod hi'n ofni bod adre' ar ben ei hun ar ôl derbyn negeseuon brawychus gan ddynion diarth.
Wedi ymosodiadau diweddar yn enw Islam, mae 'na dwf wedi bod mewn troseddau ar sail crefydd a hil.
Wythnos yma mae'r Byd ar Bedwar yn cwrdd â Mwslim Cymraeg sy'n teimlo dan fygythiad oherwydd ei grefydd, ac yn mynd i ganol y trais gyda'r Cymry sy'n mynd â'u neges gwrth-Islamaidd ar strydoedd Prydain.