
1 Rhagfyr 2025
Bydd S4C yn gweini bwydlen o raglenni arbennig sy’n addo adloniant o’r radd flaenaf dros y Nadolig. O’r cogydd amryddawn Bryn Williams yn creu gwledd Nadoligaidd o’i gartref, drama flasus gyda’r ail gyfres o Dal y Mellt, sgyrsiau at bob dant ar Y Cyfweliad, a cherddoriaeth felys yn y ffilm ddogfen arobryn, Y Crwydryn. Mae rhywbeth i bawb i’w fwynhau yn ystod hwyl yr Ŵyl ar S4C.
Mae Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C yn estyn gwahoddiad i bawb:
“Mae gan S4C rywbeth at ddant pawb ar draws ein holl blatfformau y Nadolig hwn. P’un ai ydych chi’n gwylio gyda’r teulu, ar eich pen eich hun, neu gyda ffrindiau, estynnwch gadair ac ymunwch â ni - bydd gwledd o raglenni gwych ar eich cyfer ar S4C.”
Gwledda’r Ŵyl
Yn Cegin Clwyd: Nadolig Bryn Williams ar 18 Rhagfyr bydd y cogydd enwog o Gymru, Bryn Williams yn dathlu’r Nadolig yng nghwmni ei deulu a’i ffrindiau, ac yn paratoi danteithion blasus gan gynnwys twrci arbennig, coctêl Nadolig a’r tôsti caws mwyaf blasus erioed!
Cyfweliad gydag eicon
Ar frig yr amserlen ar Ddydd San Steffan bydd cyfweliad gydag un o fawrion cerddoriaeth a gwleidyddiaeth Cymru, Dafydd Iwan yn lansio cyfres newydd - Y Cyfweliad. Mae’r fersiwn Gymraeg newydd sbon o’r gyfres The A-Talks (sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel The Assembly) yn tynnu ynghŷd grŵp o 30 o holwyr awtistig, niwro-wahanol a/neu sydd ag anableddau dysgu i holi person adnabyddus heb unrhyw gyfyngiad.
Amrywiaeth o Straeon
Ar Ddydd San Steffan, mi fydd cyfle i fwynhau’r ffilm ddogfen fyfyriol a sinematig Y Crwydryn, sy’n dilyn y cyflwynydd a’r canwr Wil Tân ar bererindod i'r trefi bach gwledig ledled Cymru sy'n llawn cerddoriaeth gwlad a diwylliant. Daw’r ffilm ystyrlon hon i S4C ar ôl casglu gwobrau mewn gwyliau ffilm ar draws y byd. Ynddi, mae Wil yn sgwrsio ac yn hel atgofion gyda chymeriadau lleol sy’n rhannu ei angerdd, mewn mannau lle'r oedd capeli ar un adeg yn galon cymunedau, bellach wedi'u disodli gan dafarndai lle mae caneuon cariad, colled a thorcalon yn ffynnu.
Bydd cyfres newydd sbon Con Jones: Twyllwr Gorau’r Byd dros yr Wyl yn rhannu stori anghredadwy y Cymro Kenner Elias Jones - “y twyllwr gorau y cwrddais ag ef erioed,” yn ôl swyddog mewnfudo UDA. Treuliodd Jones bum degawd yn twyllo ar draws cyfandiroedd. Wedi ei allgludo, ei wahardd, a sawl gwlad yn ceisio cael gafael arno, mae'n llithro trwy'r bylchau gyda dogfennau ffug. Ond ble mae e erbyn hyn?
Yn y byd cystadleuol a chyflym sydd ohoni mae’r Nadolig wedi troi’n fwy o gystadleuaeth na dathliad o gariad i'r actor a’r tad Llŷr Ifans. Yn Llŷr Ifans Allan o Sync: Dolig cawn ymgais ddoniol a gwreiddiol ganddo i geisio newid hynny.
Digonedd o ddrama
Yna, i gyflymu’r galon yn y flwyddyn newydd, mi fydd yr ail gyfres o’r ddrama drosedd Dal y Mellt yn cychwyn ar 4 Ionawr. Unwaith eto, cawn ein trochi ym myd trosedd, brad a dialedd sydd yn ymestyn o ddociau Caerdydd i grombil tywyll strydoedd Llundain; mae syndicet newydd yn datblygu sydd yn gorfodi hen gynghreiriaid i gwestiynu eu teyrngarwch ac yn cynyddu’r risg yn fwy nag erioed.
I gynhesu’r galon
Bydd dwy bennod Nadoligaidd o gwis teledu newydd y sianel, Y Deis Nadolig, yn dod â pharau o enwogion at ei gilydd – Nigel Owens a Shane Williams, Iolo Williams a Dewi ei fab, Donna Edwards a Jonathan Nefydd a Dom a Lloyd, Trystan ac Emma a Lily Beau a Dyfan Rees – i brofi eu gwybodaeth gyffredinol.
Bydd Noson Lawen hefyd yn dathlu gyda dwy bennod arbennig dros yr Ŵyl; un dan arweiniad y cerddor a digrifwr Hywel Pitts, a’r llall - Noson Lawen: Sain y Band Mawr – i groesawu’r flwyddyn newydd gyda gwledd o glasuron swing a jazz . Bydd Steffan Hughes a’i ffrindiau, ynghyd â chriw Welsh of the West End yn perfformio detholiad o glasuron poblogaidd swing a jazz.
Bydd penodau Nadolig o Sgwrs Dan y Lloer yn cynnwys y cerddor hoffus Delwyn Sion, a’r gantores ac actores Tara Bethan.
Mi fydd y gyfres realiti Priodas Pum Mil yn dychwelyd gyda phennod arbennig i ddathlu’r Ŵyl, a bydd penodau Nadolig o ffefrynnau S4C, yn cynnwys Pobol y Cwm, Rownd a Rownd, Cefn Gwlad a llawer mwy.
Chwaraeon yr Ŵyl
Wrth swatio’n gynnes i fwynhau’n danteithion Nadolig, gallwch brofi cyffro byw y meysydd chwarae. Bydd Clwb Rygbi yn dychwelyd ar 26 Rhagfyr gyda’r gêm ddarbi rhwng y Scarlets a’r Gweilch tra bydd Sgorio yn darlledu Pen-y-bont v Llansawel. Ar 27 Rhagfyr bydd Clwb Rygbi yn dangos gêm Super Rygbi Cymru rhwng RGC a Chasnewydd ac ar 1 Ionawr y gêm ddarbi rhwng y Dreigiau a’r Scarlets. Hefyd ar 1 Ionawr, mi fydd Sgorio yn darlledu Bae Colwyn v Y Fflint.
Mae’r wledd o arlwy Nadolig ar S4C eleni’n cael i noddi gan Hybu Cig Cymru. Ychwanegodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C:
“Rydym yn ddiolchgar i Hybu Cig Cymru am noddi’r wledd o gynnwys Nadolig ar S4C eleni, gan ddod â dau o hanfodion yr ŵyl ynghyd – bwyd da a theledu difyr."
Mae datganiad am arlwy Nadolig plant ar S4C i’w gweld yma.