Y Wasg

Y Wasg

Tagiau / Y Wasg / 2026

  • ‘Pobl arferol yn gwneud swydd eithriadol’: Profiadau ymgynghorydd heddlu o weithio ar y gyfres boblogaidd Cleddau

    ‘Pobl arferol yn gwneud swydd eithriadol’: Profiadau ymgynghorydd heddlu o weithio ar y gyfres boblogaidd Cleddau

    11 Hydref 2026

    Mae’r gyfres ddrama arobryn Cleddau yn archwilio rheolaeth drwy orfodaeth ac ochr dywyll y byd dêtio ar-lein wrth iddi ddychwelyd am ail gyfres ar S4C.  

    Mae’r gyfres, sy’n dychwelyd ar 11 Hydref, wedi gweithio’n agos gydag ymgynghorydd heddlu i sicrhau bod y ddrama’n adlewyrchu sut mae’r heddlu’n ymateb i'r realaeth sy’n wynebu miloedd o bobl bob blwyddyn. 

  • S4C yn cipio dros hanner gwobrau BAFTA Cymru 2026

    S4C yn cipio dros hanner gwobrau BAFTA Cymru 2026

    4 Hydref 2026

    Mae S4C wedi ennill mwy na hanner gwobrau BAFTA Cymru eleni, gan ddod i'r brig mewn naw o'r 17 categori yn y seremoni a gynhaliwyd nos Sul (4 Hydref).

  • Steffan Powell yn y blaen, gyda set a logo Y Llais yn y cefndir

    Steffan Powell i ymuno â theulu Y Llais ar S4C

    1 Hydref 2026
    Steffan Powell fydd cyflwynydd newydd Y Llais ar gyfer y drydedd gyfres ar S4C. 

  • Chwedl Jan Morris

    Chwedl Jan Morris: Taith drwy fywyd un o ffigurau mwyaf rhyfeddol ein hoes

    20 Medi 2026

    Bydd S4C yn darlledu Chwedl Jan Morris nos Sul am 20.00, cyfres ddwy ran arbennig sy'n archwilio bywyd, gwaith a gwaddol ffigwr unigryw trwy lygaid ei mab ieuengaf, y prifardd a'r awdur Twm Morys.

  • Gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru i barhau ar S4C

    Gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru i barhau ar S4C

    10 Medi 2026

    Bydd S4C yn parhau i ddarlledu gemau rhyngwladol tîm dynion Cymru, gyda phob un o chwe gêm Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA yn yr hydref ar gael i wylwyr ledled Cymru.

  • Rhun ap Iorwerth - Y Tri Mis Cyntaf

    Rhun ap Iorwerth yn emosiynol wrth gofio ei fam mewn rhaglen ddogfen newydd

    10 Medi 2026
    Mae Rhun ap Iorwerth wedi siarad yn agored am ei ddiweddar fam mewn rhaglen ddogfen newydd.

  • Dysgwraig o Lydaw ymysg yr Athrawon yng nghyfres newydd pry-ar-y-wal S4C

    Dysgwraig o Lydaw ymysg yr Athrawon yng nghyfres newydd pry-ar-y-wal S4C

    9 Medi 2026

    Mae S4C wedi cyhoeddi enwau’r wyth o athrawon newydd eu cymhwyso - a’r pum ysgol ledled Cymru lle maent yn dysgu - fydd yn destun y gyfres newydd pry-ar-y-wal Athrawon.  

  • S4C yn cael mynediad prin i wasanaeth digartrefedd Cyngor Gwynedd ar gyfer cyfres newydd

    S4C yn cael mynediad prin i wasanaeth digartrefedd Cyngor Gwynedd ar gyfer cyfres newydd

    8 Medi 2026

    Mae camerâu wedi cael mynediad prin i wasanaeth digartrefedd Cyngor Gwynedd ar gyfer cyfres ddogfen newydd ar S4C sy’n archwilio’r pwysau cynyddol ar wasanaethau tai yng Nghymru.

  • Rhyddhau delweddau cyntaf ail gyfres y ddrama Cleddau

    Rhyddhau delweddau cyntaf ail gyfres y ddrama Cleddau

    19 Awst 2026

    Mae S4C wedi rhyddhau delweddau cyntaf ail gyfres y ddrama boblogaidd Cleddau, a fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C, BBC iPlayer a S4C Clic ym mis Hydref 2026. Mi fydd chwe phennod yn yr ail gyfres gyda DI Ffion Lloyd (Elen Rhys) a DS Rick Sheldon (Richard Harrington) yn dychwelyd wrth iddynt hela llofrudd sy'n defnyddio ap dêtio i stelcian ei ddioddefwyr.

  • S4C yn datblygu drama am y cyfleoedd a gollwyd i atal Neil Foden

    S4C yn datblygu drama am y cyfleoedd a gollwyd i atal Neil Foden

    13 Awst 2026

    Mae S4C wedi comisiynu cyfres ddrama dair-rhan Y Pennaeth (teitl gweithredol), fydd yn archwilio’r methiannau a’r cyfleoedd a gollwyd i atal y cyn-brifathro a’r pedoffeil, Neil Foden.  

  • Seiriol Dawes-Hughes, Comisiynydd Chwaraeon S4C

    Penodi Seiriol Dawes-Hughes yn Gomisiynydd Chwaraeon S4C

    7 Awst 2026
    Mae S4C yn falch o gyhoeddi mai Seiriol Dawes-Hughes sydd wedi ei benodi yn Gomisiynydd Chwaraeon newydd S4C.

  • S4C Dysgu Cymraeg

    S4C i fuddsoddi mwy mewn cynnwys digidol i ddysgwyr

    6 Awst 2026
    Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd yn ymestyn ei ddarpariaeth i ddysgwyr drwy fuddsoddi £100,000 ychwanegol mewn pecyn o gynnwys digidol i gefnogi’r rhai sy’n dysgu Cymraeg.

  • Cyhoeddi cyflwynydd newydd Cyw ar S4C

    Cyhoeddi cyflwynydd newydd Cyw ar S4C

    6 Awst 2026
    Mae S4C wedi cyhoeddi taw Lliwen Glwys o Fachynlleth yw cyflwynydd newydd Cyw, gwasanaeth y sianel i blant hyd at 6 mlwydd oed. 

  • Seren Jones sydd yn cyflwyno Cyrraedd Cymru

    Seren Jones i ddarganfod straeon y teuluoedd a ddaeth i alw Cymru’n gartref ar S4C

    5 Awst 2026
    Bydd y cyflwynydd Seren Jones yn archwilio’r straeon personol tu ôl i’r teuluoedd sydd wedi galw Cymru’n gartref ar ôl cyrraedd o wledydd ar draws y byd, mewn cyfres newydd ar S4C.  

  • S4C a Cymru Greadigol yn cyhoeddi fersiwn Gymraeg o Star Wars: Gobaith Newydd mewn partneriaeth â Lucasfilm a Disney

    S4C a Cymru Greadigol yn cyhoeddi fersiwn Gymraeg o Star Wars: Gobaith Newydd mewn partneriaeth â Lucasfilm a Disney

    4 Awst 2026

     

  • Sali Mali tu allan i'r Egin

    Sali Mali i ddychwelyd i S4C ar ôl dros 20 mlynedd

    3 Awst 2026

    Bydd y cymeriad plant eiconig Sali Mali yn dychwelyd i S4C yn 2027 am ei chyfres newydd gyntaf, tu hwnt i animeiddiadau, ers dros 20 mlynedd.

  • Darllediad aml-blatfform S4C i ddod â holl gyffro Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las

    Darllediad aml-blatfform S4C i ddod â holl gyffro Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las

    30 Gorffennaf 2026

    Bydd S4C yn dod â holl gyffro Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las i wylwyr ar draws ei phlatfformau. Bydd rhywbeth i ddiddanu pawb o bob oed sydd am fwynhau blas o’r Eisteddfod gartref. 

  • Aleighcia ar drywydd hanes caneuon traddodiadol Cymru ar S4C

    Aleighcia ar drywydd hanes caneuon traddodiadol Cymru ar S4C

    29 Gorffennaf 2026

    Y gantores a’r gyflwynwraig o Gaerdydd Aleighcia Scott fydd prif gyflwynydd Gwalia Aleighcia, cyfres ddogfen newydd ar S4C. Yn ymddangos ar y sgrin ym mis Medi, bydd Aleighcia – yng nghwmni ei chydymaith sy’n ymddiddori mewn hanes, Luke Davies – yn teithio Cymru benbaladr yn dysgu am hanes ein gwlad a’n caneuon traddodiadol, gan berfformio gydag artistiaid amrywiol ar hyd y daith. 

  • Teyrnged i un o storïwyr gorau Cymru

    Teyrnged i un o storïwyr gorau Cymru

    24 Gorffennaf 2026

    Bydd S4C yn talu teyrnged i un o lenorion mwyaf blaenllaw Cymru mewn rhaglen arbennig am Eigra Lewis Roberts.

  • Sgorio i ddarlledu pêl-droed domestig Cymru am y dair blynedd nesaf

    S4C yn adnewyddu cytundeb tair blynedd ar gyfer pêl-droed domestig

    23 Gorffennaf 2026
    Mae S4C wedi adnewyddu ei ymrwymiad i bêl-droed domestig am y tair blynedd nesaf, gyda Sgorio yn parhau i ddarparu darllediadau am ddim o’r Cymru Premier Novira, Cynghreiriau Adran Genero, Cwpan Cymru CBDC a Chwpan Cymru Bute Energy.

  • S4C yn comisiynu cyfres ddrama fertigol 60 pennod i ddechrau ffilmio ar faes y Sioe

    S4C yn comisiynu cyfres ddrama fertigol 60 pennod i ddechrau ffilmio ar faes y Sioe

    22 Gorffennaf 2026

    Mae S4C wedi comisiynu cyfres ddrama fertigol newydd ar gyfer sianel TikTok Hansh, gyda’r stori ramant i gael ei hadrodd dros 60 pennod .  

  • Bryn Williams yn dathlu cynhyrchwyr Cymru ar S4C

    Bryn Williams yn dathlu cynhyrchwyr Cymru ar S4C

    20 Gorffennaf 2026

    Bydd cynhyrchwyr bwyd o ogledd Cymru yn cael eu dathlu mewn cyfres goginio newydd gyda’r cogydd Bryn Williams ar S4C ym mis Hydref. 

  • Holl gyffro cystadlu Y Sioe Frenhinol ar S4C – yr unig le i wylio’n fyw

    Holl gyffro cystadlu Y Sioe Frenhinol ar S4C – yr unig le i wylio’n fyw

    16 Gorffennaf 2026

    Ymunwch ag S4C yr haf hwn i wylio holl gystadlu a bwrlwm un o brif ddigwyddiadau calendr amaethyddol Prydain - Sioe Frenhinol Cymru.  

  • Oriau ffrydio S4C ar eu huchaf erioed gyda’r strategaeth newydd ar waith

    Oriau ffrydio S4C ar eu huchaf erioed gyda’r strategaeth newydd ar waith

    8 Gorffennaf 2026

    Mae oriau ffrydio S4C wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed gyda thwf sylweddol ar draws y cyfrifon cymdeithasol, yn ôl adroddiad blynyddol y darlledwr. 

  • O Gymru i’r Unol Daleithiau: darganfod America drwy lygaid y Pitts

    O Gymru i’r Unol Daleithiau: darganfod America drwy lygaid y Pitts

    4 Gorffennaf 2026

    Ar Ddiwrnod Annibyniaeth America – Freedom 250 – mae S4C yn falch o gyhoeddi comisiwn cyfres newydd fydd yn edrych ar America heddiw trwy lygaid dau Gymro chwilfrydig.  

  • Tu ôl i'r llen ar ffilmio Anfamol Cyfres 2

    S4C wedi buddsoddi £136m mewn drama dros y ddegawd ddiwethaf

    2 Gorffennaf 2026
    Mae S4C wedi buddsoddi dros £136m mewn drama yng Nghymru yn ystod y ddegawd ddiwethaf.

  • S4C i ddarlledu’r Tour de France eleni

    S4C i ddarlledu’r Tour de France eleni

    30 Mehefin 2026

    Mae S4C wedi sicrhau'r hawliau i ddarlledu'r Tour de France yn 2026, gan roi cyfle i wylwyr ddilyn y ras feicio fwyaf yn y byd trwy gyfuniad o gymalau byw ac uchafbwyntiau.

  • Pwy fydd Y Llais nesaf? Y Llais i ddychwelyd yn 2027

    Pwy fydd Y Llais nesaf? Y Llais i ddychwelyd yn 2027

    19 Mehefin 2026

    Bydd Y Llais yn ôl am drydedd gyfres ar S4C yn 2027.

  • S4C i ddarlledu gemau Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop D19 UEFA 2026 yng Ngogledd Cymru yn fyw

    S4C i ddarlledu gemau Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop D19 UEFA 2026 yng Ngogledd Cymru yn fyw

    18 Mehefin 2026

     

    Bydd S4C yn darlledu’n fyw o Bencampwriaeth Ewrop D19 UEFA 2026 dros yr haf, wrth i Ogledd Cymru gynnal y twrnamaint rhyngwladol am y tro cyntaf.

  • S4C i ddarlledu’r gystadleuaeth newydd Pencampwriaeth y Cenhedloedd

    S4C i ddarlledu’r gystadleuaeth newydd Pencampwriaeth y Cenhedloedd

    17 Mehefin 2026

    Bydd S4C yn darlledu pob gêm Cymru yn y gystadleuaeth rygbi newydd, Pencampwriaeth y Cenhedloedd, yn fyw am y bedair mlynedd nesaf.