
Ar y dudalen yma, mae'r holl wybodaeth am sut i gymryd rhan ac am ba gyfresi a rhaglenni sy'n chwilio am gyfranwyr.

Ydych chi eisiau herio Y DEIS?
Cyfle i gymryd rhan yng nghyfres nesaf Y Deis am gyfle i ennill hyd at £5,000 o bunnau! Bydd angen gwybodaeth cyffredinol, strategaeth ac fel unrhyw gem sy'n dibynnu ar dafliad y deis...ychydig bach o lwc!
Anfonwch eich ceisiadau erbyn 30 Mehefin 2026.

Mae Boom Cymru yn chwilio am gyplau o bob cefndir ac o bob cwr o Gymru i gymryd rhan yn negfed cyfres 'Priodas Pum Mil'. Felly os ydych chi eisiau priodas unigryw ac arbennig yn 2026, cysylltwch.
Anfonwch eich ceisiadau erbyn 30 Ebrill 2026.
Os nad oes cyfleoedd ar gael ar hyn o bryd, cofiwch ddychwelyd yn rheolaidd.
O hyd wedi breuddwydio am fod ar sgrin? Chi yn y man cywir, dyma'r lle am gyfleoedd castio sydd ar gael gan S4C.
Sut mae ymgeisio? Yn syml, ebostiwch y cwmnïoedd cynhyrchu (manylion uchod), bydd y cynhyrchiad mwy na hapus i glywed wrthoch chi.
Unrhyw gwestiynau? Cofiwch fod modd ein e-bostio ar gwifren@s4c.cymru. Rydym yn croesawu cwestiynau, sylwadau, ac adborth, a byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu.