
Teithiau
Dych chi eisiau gwneud rhywbeth gwahanol i ymarfer eich Cymraeg wyneb yn wyneb? Bydd Wythnos Dathlu Dysgu ym mis Hydref, lle bydd pwyslais arbennig ar ddysgwyr gyda BBC Radio Cymru ac S4C hefyd.
'Dyn ni’n cynnig cyfleoedd arbennig i fynd ar daith tu ôl i’r llen mewn tri lleoliad. Bydd staff darlledwyr a pharteriaid yna i chi ddysgu mwy am y cyfryngau Cymraeg, a thiwtor o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg i’ch cefnogi.
Bydd y teithiau i gyd yn digwydd ar yr un noson: Nos Fercher, 15 Hydref 2025, 6:30yh. Mae manylion am y lleoliadau a sut i archebu isod. Mae nifer cyfyngedig ar bob taith, felly cyntaf i’r felin. Maen nhw’n addas ar gyfer dysgwyr Canolradd, Uwch, Gloywi.
Ar y cyd gyda Rondo Media
Cartref i rai setiau eiconig Rownd a Rownd yw Aria. Dewch i ymweld â Siop yr Iard, yn ogystal â chartrefi'r cymeriadau, a dysgu mwy am sut mae un o’n hoff raglenni Cymraeg yn cael ei chreu.
Cost: am ddim
Sori - mae'r daith hon yn llawn
Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch: amrywiaeth@s4c.cymru