Y Wasg

Y Wasg

Tagiau / Y Wasg / 2024

  • Sêr ifanc sydd ag anableddau ac anghenion cyfathrebu cymhleth yn disgleirio mewn cyfres arloesol i blant ar S4C – Help Llaw 

    30 Rhagfyr 2024

    Mae S4C yn falch o fod yn lawnsio cyfres gyffrous newydd i blant a fydd yn cofleidio, dathlu a dyrchafu Cymry ifanc ag anableddau ac anghenion cyfathrebu. Bydd Help Llaw yn diddannu drwy chwerthin a dysgu gan gynnwys Makaton fel adnodd cyfathrebu.

  • A fydd amour ar y mynydd? Cyfres garu realiti newydd S4C ‘yn mynd â charu nôl i’r basics’.

    29 Rhagfyr 2024

    Bydd cyfres garu realiti newydd sbon, Amour & Mynydd yn dechrau ar S4C ar 1 Ionawr.

    Bydd y gyfres pedair rhan yn dod ag wyth unigolyn sengl ynghyd, gan gynnig cyfle unigryw iddynt ddod o hyd i gariad - ac efallai darganfod mwy amdanynt eu hunain ar hyd y ffordd. Yn gefnlen i'r cwbl fydd golygfeydd syfrdanol yr Alpau Ffrengig.

  • “Fel Cymro Cymraeg, fedrwn i’m cael dim gwell” – Y cyn-isbostfeistr Noel Thomas yn trafod un o uchafbwyntiau ei fywyd – cael ei urddo gan yr Orsedd

    27 Rhagfyr 2024

    Mae Noel Thomas, y cyn is-bostfeistr o Fôn fu'n rhan o sgandal Horizon Swyddfa'r Post wedi disgrifio'r anrhydedd o gael ei urddo gan Orsedd y Beirdd eleni fel un o uchafbwyntiau ei fywyd.

  • Stori bwerus ar Pobol y Cwm yn codi ymwybyddiaeth o drais domestig dros y Nadolig

    23 Rhagfyr 2024

    Mae'r opera sebon poblogaidd wedi cydweithio â Chymorth i Ferched Cymru a Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o sefyllfa gymdeithasol sy'n medru bod yn heriol iawn i ddioddefwyr dros gyfnod y Nadolig.

  • Sioe stand-yp Elis James, Derwydd, i’w gweld ar S4C y Nadolig hwn.

    20 Rhagfyr 2024

    Bydd y comedïwr Elis James yn dod â digon o hwyl a chwerthin i gynulleidfaoedd dros yr ŵyl gyda'i sioe stand-yp newydd a hir-ddisgwyliedig, Derwydd, fydd i'w gweld ar S4C am 9.15pm ar 26 Rhagfyr.

  • ​Hud y Nadolig ar S4C

    19 Rhagfyr 2024

    Arlwy teledu Nadoligaidd yn cynnig adloniant bythgofiadwy i bawb.

  • Dwbl y briodas, teirgwaith y cyllid, un cariad

    19 Rhagfyr 2024

    Bydd cyfres boblogaidd Priodas Pum Mil yn cynnig pennod gwahanol iawn ar gyfer diwrnod Nadolig. Bydd y pennod dwym galon a Nadoligaidd hon ag enw gwahanol hefyd - Priodas Pymtheg Mil.

  • Chwilio am Gadeirydd Newydd S4C ac Aelodau Newydd i’r Bwrdd

    6 Rhagfyr 2024

    Mae'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DCMS) wedi cyhoeddi ei bod yn chwilio am Gadeirydd newydd i S4C. Mae'r adran, sy'n gyfrifol am apwyntiadau cyhoeddus S4C, hefyd yn hysbysebu am hyd at bump aelod anweithredol newydd i Fwrdd y sianel.

  • Dramâu llwyfan i’w gweld ar S4C am y tro cyntaf

    5 Rhagfyr 2024

    Bydd modd i bawb weld dwy ddrama lwyfan boblogaidd fu'n teithio theatrau Cymru yn ddiweddar ar S4C a'i phlatfformau ffrydio ar 8 Rhagfyr.

  • Y Smyrffs yn dychwelyd i S4C yn 2025

    26 Tachwedd 2024

    Mae'r Smyrffs – y gyfres deledu ryngwladol boblogaidd i blant - ar fin dychwelyd i S4C am y tro cyntaf ers 40 mlynedd.

  • Seiclo Trac: Cynghrair y Pencampwyr i'w gweld ar S4C am y tro cyntaf – gan gynnwys Emma Finucane o Team GB

    20 Tachwedd 2024

    Bydd y Gymraes Emma Finucane yn cystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr Trac UCI 2024, a fydd yn darlledu ar S4C am y tro cyntaf dydd Sadwrn 23 Tachwedd.

  • S4C a Media Cymru yn ymuno mewn prosiect dyfodol digidol uchelgeisiol

    18 Tachwedd 2024

    Mae S4C a'r consortiwm cyfryngau Cymraeg Media Cymru wedi cyhoeddi'r prosiect ymchwil a datblygu mwyaf uchelgeisiol yn hanes S4C.

  • Cyhoeddi Prif Weithredwr newydd S4C

    12 Tachwedd 2024

    Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Geraint Evans wedi ei benodi yn Brif Weithredwr S4C.

  • Aelodau Anweithredol o Fwrdd Masnachol S4C

    6 Tachwedd 2024

    Mae S4C yn dymuno penodi dau Aelod Bwrdd Anweithredol i'w Fwrdd Masnachol.


  • Alex Jones a streic y Glowyr

    12 Tachwedd 2024

    40 mlynedd ar ôl streic wnaeth drawsnewid cymunedau Cymru, mae'r cyflwynydd Alex Jones yn dychwelyd i'w thref enedigol Rhydaman, er mwyn siarad gyda ffrindiau oedd â rhieni yn sefyll ar y linell biced.

  • Calan Gayaf - Codi Bwganod gyda’r Queens Cŵm Rag

    30 Hydref 2024

    Mae Hansh yn cyflwyno rhaglen go wahanol ar gyfer Calan Gaeaf eleni ar draws platfformau digidol S4C.

  • Blas o etholiad America ar S4C

    25 Hydref 2024

    Bydd S4C yn darlledu amrywiaeth o raglenni dros yr wythnosau nesaf i roi blas o fwrlwm Etholiad Arlywyddol yr Unol Daleithau 2024, cyn i'r canlyniadau llawn gael eu cyhoeddi'n fyw mewn rhifyn arbennig o raglen Newyddion S4C nos Fercher 6 Tachwedd.

  • Yr Hawl i Chwarae - hanes cudd pêl-droed menywod Cymru ar S4C

    21 Hydref 2024

    Am y tro cyntaf erioed, bydd hanes gyfoethog ond anghyfarwydd pêl-droed menywod yng Nghymru i'w gweld mewn rhaglen deledu arbennig.

  • S4C yn ennill gwobrau BAFTA mewn categorïau amrywiol

    20 Hydref 2024

    Wedi i raglenni S4C gael eu henwebu ar gyfer 20 gwobr BAFTA, llwyddodd rhaglenni o fewn categorïau drama, plant a ffeithiol i ennill yn ystod y seremoni heno.

  • Cyfrinach deuluol ddinistriol cyn chwaraewr rygbi Cymru

    15 Hydref 2024

    Ar daith ddiweddar i orllewin Affrica, mae cyn-seren rygbi rhyngwladol Cymru, Nathan Brew, yn ymweld â chartref cyndeidiau ei dad, Castle Brew, ar yr Arfordir Aur yn Ghana. Mae'r 'castell' yn edrych dros gaer a ddefnyddiwyd i ddal caethweision mewn celloedd. Dyma oedd busnes ei hynafiaid.

  • Drama newydd S4C – llofruddiaeth a chariad yn Sir Benfro

    10 Hydref 2024

    Bydd drama dditectif newydd sy'n cyfuno dirgelwch llofruddiaeth gyda charwriaeth hanesyddol, ac wedi ei chreu gan rhai o brif ddoniau'r ddrama drosedd yng Nghymru, ar S4C yr hydref hwn.


  • Taith Josh Navidi i ailgydio yn ei Gymraeg

    15 Medi 2024

    Mae'r cyn chwaraewr rygbi Cymru Josh Navidi wedi cael cymorth y cyn-flaenwr rhyngwladol a'i gyd-Lew Ken Owens i ailgydio yn yr iaith Gymraeg, a magu'r hyder i'w siarad.

  • Y Cwpwrdd Trysor ar y bryn

    17 Medi 2024

    Roedd cyflwyno cyfres newydd S4C Cyfrinachau'r Llyfrgell yn "un o bleserau mwyaf fy ngyrfa" esbonia'r cyflwynydd teledu a radio, Dot Davies. Dywedodd: "Gobeithio y bydd hi'n rhaglen y gall Cymru gyfan ymfalchïo ynddi; mae'n emosiynol, cadarnhaol, addysgiadol a gwladgarol hefyd."

  • Eco-droseddwyr Cymru yn achub y byd

    16 Medi 2024

    Mewn cyfres newydd ar gyfer HANSH, platfform S4C ar gyfer rhaglenni pobl ifanc, mae wyth o eco droseddwyr mwyaf Cymru yn dod at ei gilydd ac yn aros mewn iwrts heb wres canolog nac unrhyw beth moethus.



  • 20 o enwebiadau i S4C yng ngwobrau BAFTA Cymru 2024

    5 Medi 2024

    Mae S4C wedi derbyn 20 o enwebiadau yn restr fer gwobrau BAFTA Cymru 2024 a gyhoeddwyd heddiw (Iau 5 Medi).


  • S4C yn talu teyrnged i'r cerddor, actor a'r awdur Dewi 'Pws' Morris

    22 Awst 2024

    Mae S4C wedi talu teyrnged i'r cerddor, actor a'r awdur Dewi 'Pws' Morris

  • Gemau rygbi Cyfres yr Hydref ar S4C

    21 Awst 2024

    Bydd S4C yn darlledu gemau rygbi dynion Cymru yng Nghyfres yr Hydref, a hynny am y ddwy flynedd nesaf.

  • Oriau gwylio wythnosol uchaf i S4C ers pymtheg mlynedd - diolch i raglenni’r Eisteddfod Genedlaethol

    20 Awst 2024

    Mae S4C wedi gweld twf sylweddol yn nifer yr oriau gwylio a chyrhaeddiad y sianel dros wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni (7 – 13 Awst) gyda ffigurau gwylio dros deirgwaith lefel wythnos arferol ar S4C.

    Mae cynulleidfaoedd o bob oed wedi ymateb i'r rhaglenni ac roedd lefel y gwerthfawrogiad i'r holl gynnwys yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd ar ei uchaf ers pum mlynedd ar draws platfformau'r sianel.

  • S4C yn Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg

    19 Awst 2024

    S4C yn Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg

  • Cyfle i gwrdd â theulu newydd Deian a Loli yn yr Eisteddfod Genedlaethol

    9 Awst 2024

    Ddydd Sadwrn 10 Awst ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd S4C yn cyflwyno cast y gyfres newydd o Deian a Loli, un o'r rhaglenni mwyaf poblogaidd i blant Cymru.