

9 Tachwedd 2025
Wrth i’r ddrama boblogaidd STAD ddychwelyd i S4C, mae’r awdures Lleucu Siôn yn pwysleisio pa mor bwysig ydi dal gwir sŵn a chymeriad Caernarfon ar y sgrin. Mae “pobl, egni, sŵn a hiwmor pobl Caernarfon mor sbesial” meddai “oedd hi’n holl bwysig i fi fod Dre’n swnio fel Dre ar y teli”.
4 Tachwedd 2025
Chwalwyd tawelwch a heddwch cymuned glan môr yn ystod haf 1983, gan un o archwiliadau mwyaf rhyfeddol yr heddlu yn hanes Cymru. Trefdraeth, Sir Benfro – “tref y nefoedd” yn ôl y bobl leol, oedd y man olaf disgwyliwyd i’w gweld yng nghanol cylch smyglo rhyngwladol.

28 Hydref 2025
Y Deis yw rhaglen gwis adloniannol newydd sbon S4C sydd ar fin cychwyn ffilmio yn Gymraeg yn Stiwdio Enfys, Caerdydd, ac mae S4C yn falch o gyhoeddi bod darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Iwerddon, TG4, wedi sicrhau’r hawliau ar gyfer y fformat newydd o’r rhaglen adloniannol.

22 Hydref 2025
Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, mae’r cyflwynydd Mari Grug yn rhannu ei phrofiad personol o fyw gyda chanser metastatig - canser sydd wedi lledu i rannau eraill o’r corff - mewn rhaglen ddogfen ar S4C.

20 Hydref 2025
Bydd rhaglen ddogfen Gymraeg newydd, Ruth Ellis: Y Cariad a’r Crogi yn cael ei darlledu ar S4C nos Fawrth hwn 21 Hydref, gan daflu goleuni newydd ar fywyd, cariad a gwaddol y fenyw olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain.

15 Hydref 2025
Mae S4C wedi cadarnhau cytundeb newydd pedair blynedd gyda Rygbi'r Chwe Gwlad, gan sicrhau darllediadau cynhwysfawr o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad o 2026 ymlaen.

10 Hydref 2025
Mae’r arwr rygbi Alun Wyn Jones wedi dweud bod methu siarad ei iaith ei hun wrth deithio’r byd yn “rhywbeth nad ydw i’n falch ohono”. Nawr, gyda gwraig a thair merch sydd i gyd yn siarad Cymraeg adref, mae cyn-gapten Cymru a’r Llewod yn benderfynol o newid ac yn dweud bod dysgu Cymraeg “i wneud gyda nabod fy ngwreiddiau a pherthyn i fy ngwlad.”

15 Medi 2025
Doedd “dim diddordeb” gan y cyn-brif weinidog Mark Drakeford mewn gyrfa ym myd gwleidyddiaeth pan yn iau. Dyna un o’r cyfrinachau i gael eu datgelu yn y gyfres newydd o Cyfrinachau’r Llyfrgell wrth i’r Llyfrgell Genedlaethol agor ei drysau unwaith yn rhagor i rai o sêr mwyaf Cymru.

11 Medi 2025
Ar 11 Medi 2025 bydd yr opera sebon poblogaidd, Rownd a Rownd yn cyrraedd carreg filltir arbennig wrth ddathlu tri deg mlynedd.
Daeth Rownd a Rownd i’r sgrin yn 1995 fel cyfres sebon i bobl ifanc, gyda phenodau 15 munud o hyd oedd yn dilyn helyntion criw o bobl ifanc ar rownd bapur.

11 Medi 2025
Mae S4C yn “fwy na sianel deledu” – dyna’r neges wrth i’r darlledwr lansio’i strategaeth am y bum mlynedd nesaf.
Gyda phwyslais ar ddyfodol digidol, mae lansiad y strategaeth yn digwydd yr un pryd â darllediad o Yr Alwad – y ddrama fertigol gyntaf i S4C ei chomisiynu yn benodol ar gyfer llwyfan TikTok.

9 Medi 2025
Mae’r chwaraewr rhyngwladol adnabyddus, Rhys Patchell, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi proffesiynol. Mae ei daith, gan gynnwys ei amser yn Japan a’r penderfyniad i gamu nôl o chwarae'r gêm, yn cael ei ddangos mewn cyfres ddogfen newydd ar S4C.
Mi gadarnhaodd y chwaraewr 32 oed y newyddion cyn i'r gyfres tair rhan, Rhys Patchell: Japan a’r Gic Olaf, gychwyn ar S4C ar 24 Medi am 20:25.

11 Awst 2025
Mi fydd S4C yn darlledu fersiwn Gymraeg newydd sbon o’r gyfres The A-Talks (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel The Assembly) – lle mae grŵp o 30 o ymholwyr awtistig, niwro-wahanol a/neu sydd ag anableddau dysgu yn holi person adnabyddus heb unrhyw gyfyngiad.

17 Gorffennaf 2025
Mae oriau gwylio S4C ar draws ei llwyfannau digidol ar eu huchaf erioed. Yn ei Adroddiad Blynyddol 2024-25 mae’r darlledwr yn nodi cynnydd o 7% mewn gwylio ar draws Clic ac iPlayer ers y llynedd, gyda 14% o holl wylio S4C nawr yn digwydd ar draws Clic, iPlayer a YouTube.

14 Gorffennaf 2025
Enillydd Y Llais, Rose Datta, sydd â sengl drawiadol gyntaf ac yn annog pobl Cymru ymgeisio am y gyfres newydd gyda llai nag wythnos i fynd!
Mae Rose Datta, enillydd a seren cyfres gyntaf erioed o Y Llais, yn rhyddhau ei sengl newydd Gwerthfawr heddiw (14 Gorffennaf) – gan ddechrau ar bennod newydd gyffrous yn ei gyrfa gerddorol.

3 Gorffennaf 2025
Bydd ffilm opera Gymraeg sy’n cyfuno genres yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin, sydd bellach yn ei 78fed blwyddyn, ar 18 Awst, cyn iddi gael ei dangos mewn sinemâu yn yr hydref.