4 Rhagfyr 2023
Mae cynllun datblygu artistiaid comedi newydd sbon yn cael ei lansio yng Nghymru felcydweithrediad rhwng Channel 4, S4C a Little Wander er mwyn chwilio am dalent newydd a'idatblygu. Mae'r tri sefydliad wedi gweithio mewn partneriaeth i greu cynllun newydd ar gyfertalentau comedi o Gymru (a'r rhai sydd wedi'i lleoli yng Nghymru), darparu cyfleoedd datblygugyrfa ac agor y drws i gomisiynau creadigol yn y dyfodol.
21 Tachwedd 2023
Mae S4C yn gweithio mewn partneriaeth â'r Consortiwm arloesi cyfryngau Media Cymru i gynnig rhaglen hyfforddi arbenigol am ddim ar greu, ariannu, pecynnu a gwerthu fformatau byd-eang a fydd yn apelio at wylwyr teledu ledled y byd.
20 Tachwedd 2023
Mae'r actores Pobol y Cwm, Sera Cracroft, wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am ymosodiad rhywiol ddigwyddodd iddi pan oedd yn blentyn.
Mewn cyfweliad gyda chyfres Sgwrs Dan y Lloer ar S4C, mae'n disgrifio ymosodiad yn nhŷ ffrind yn ystod parti pen-blwydd.
Mae Sera Cracroft wedi chwarae rhan Eileen yng nghyfres sebon S4C Pobol y Cwm ers 1989. Dywed mai ei phrif reswm dros siarad yn gyhoeddus yw ceisio helpu eraill sydd wedi dioddef profiadau tebyg.
Yn y cyfweliad a gaiff ei ddarlledu ar S4C am 20:00 nos Lun Tachwedd 20ain , dywed Sera Cracroft:
"Dwi'n cofio o ni yn teimlo fy mod i yn mygu. A nes i frathu ei law o a sgrechian am Mam. A wedyn dwi yn cofio poen anferthol yn fy mraich i hefyd.
"Sbio ar y person yma a gwybod bod o wedi dychryn bo fi wedi sgrechian. Oedd o yn gafael yn fy mraich i a wnaeth o droi allan bod o wedi fracturo fy mraich i."
Cadwodd Sera yn dawel am yr ymosodiad am flynyddoedd, gan ei gadw iddi hi ei hun. "Nes i rioed sôn am y cam-drin rhywiol, erioed tan o ni bron yn ganol oed. Ond o ni yn cael flashbacks ofnadwy, a dychryn ac o ni yn blentyn nerfus iawn."
Flynyddoedd ar ôl yr ymosodiad, pan deimlodd ar ei hisaf dechreuodd Sera feddwl am hunanladdiad.
"O ni methu delio â hyn. O ni dan straen. Oedd fy ngŵr wedi bod yn sâl yn gorfforol a ges i pneumonia, oedd fy merch ieuengaf yn dioddef gyda'r cyflwr sydd arni."
Daeth cwlwm Sera â'i theulu â hi'n ôl o'r dibyn. "Nes i just meddwl amdan y plant, amdanyn nhw pan oedden nhw yn blant bach.
"Dwi'n cofio un nyrs yn dweud wrtha i, 'there isn't one child I've spoken to who would think their life better without their mother'".
Dechreuodd Sera driniaeth seiciatrig yn fuan wedyn a dechreuodd rannu ei phrofiadau gyda'r tîm oedd yn ei chefnogi.
"Dwi wedi cael lot o gwnsela, a ma hynna wedi bod yn help. Dwi wedi gwneud ffrindiau gyda pobol, a ma nhw wedi cysylltu â fi am iechyd meddwl."
Mae ganddi bellach rwydwaith cymorth cryf gan gynnwys cyn-gôl-geidwad Cymru ac Everton, Neville Southall, sy'n eiriolwr dros wasanaethau iechyd meddwl.
Dywed Sera: "Rŵan dwi mewn lle da."
20 Tachwedd 2023
Mae Michaela Carrington, o Grughywel, Powys, wedi ennill prif wobr Cwis Bob Dydd, sef y defnydd o gar am flwyddyn.
7 Tachwedd 2023
Dywedodd llefarydd ar ran S4C:
"Mae S4C yn croesawu'r bwriad sydd yn cael ei nodi fel rhan o Araith y Brenin, i gefnogi'r diwydiannau creadigol.
"Bydd cyflwyno Mesur y Cyfryngau yn y tymor Seneddol yma yn cadarnhau sefyllfa S4C fel darparwr cynnwys Cymraeg aml-blatfform ledled y DU a thu hwnt.
"Fe fydd y fframwaith newydd yn sicrhau bod ieithoedd brodorol, gan gynnwys Cymraeg, yn rhan o'r cylch gorchwyl newydd ar gyfer teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU.
"Bydd y mesur yn ymestyn y gyfraith sy'n ymwneud â'r cyfryngau i wylio teledu ar-lein, a sicrhau bod S4C Clic ar gael ar setiau teledu cysylltiedig ac yn amlwg ar setiau teledu yng Nghymru.
"Fe fydd hyn yn ein galluogi ni i ddatblygu'n gwasanaethau ymhellach a rhoi cynnwys Cymraeg ar-alw ar y prif blatfformau ar draws y DU."
10 Hydref 2023
S4C's International's inaugural Commercial Content Fund is up and running from today (Tuesday 10th October) and actively looking for projects and partners in Wales and Internationally.
Mae Cronfa Cynnwys Masnachol gyntaf S4C Rhyngwladol yn weithredol o heddiw ymlaen (dydd Mawrth, 10 Hydref) ac yn chwilio am brosiectau a phartneriaid yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
28 Medi 2023
Mae S4C Digital Media Cyf wedi penodi Laura Franses yn Gynghorydd i'r Gronfa Tŵf Masnachol.
30 Awst 2023
Bydd rhaglen newydd i blant a phobl ifanc ar S4C ddydd Llun 4 Medi – Newyddion Ni.
25 Awst 2023
Mae S4C yn cynyddu ei ymrwymiad i bêl-droed menywod, gan fwy na dyblu y nifer o ddarllediadau byw eleni, ac am y tro cyntaf erioed, yn darlledu 3 cystadleuaeth ddomestig ac un cystadleuaeth ryngwladol pêl-droed menywod Cymru.
23 Awst 2023
Bydd S4C yn darlledu rhaglen uchafbwyntiau o Ŵyl y Dyn Gwyrdd am y tro cyntaf erioed.
17 Awst 2023
Mae ap Cwis Bob Dydd wedi cyrraedd 10,000 o ddefnyddwyr ers iddo ddychwelyd yn ôl ym mis Mehefin eleni.
08 Awst 2023
Bydd S4C a Theatr Genedlaethol Cymru yn datblygu Y Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig 2 fel rhan o bartneriaeth newydd.
5 Awst 2023
Mae sianel carioci Cymraeg newydd yn cael ei lansio ar safle YouTube Noson Lawen.
31 Gorffennaf, 2023
Bydd pob gêm Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C.
Sarra Elgan, Jason Mohammad a Lauren Jenkins fydd yn cyflwyno'r darllediadau o'r twrnament.
Y sylwebydd Gareth Charles fydd yn dod â holl gynnwrf y gemau i'r gwylwyr adre ac yn ymuno ag ef bydd y dadansoddwyr arbenigol Mike Phillips, Gwyn Jones, Siwan Lillicrap, Rhys Priestland, Dyddgu Hywel, Robin McBryde a Rhys Patchell.
25 Gorffennaf
Gall gwylwyr ddewis isdeitlau Cymraeg ar raglenni Newyddion S4C o fis Medi ymlaen.
12 Gorffennaf 2023
Mae nifer gwylwyr S4C yng Nghymru bob wythnos wedi codi 8% yn uwch na'r llynedd, y ffigurau uchaf i'r darlledwr ers pum mlynedd.
Wrth gyhoeddi Adroddiad Blynyddol S4C ar gyfer 2022-23, mae'r gwasanaeth yn nodi twf hefyd yn nifer y gwylwyr rhwng 16-44 oed i'r lefel uchaf mewn deng mlynedd.
26 Mehefin 2023
Mae S4C wedi arwyddo cytundeb masnachol gyda Ryan Reynolds. Bydd S4C yn darparu 6 awr yr wythnos o gynnwys Cymraeg wedi ei ddewis gan Ryan Reynolds ar gyfer sianel Maximum Effort, fydd yn cael ei ffrydio yn wythnosol ar 'Welsh Wednesdays'.
21 Mehefin 2023
Mewn cyfres o eitemau i wefannau cymdeithasol S4C, mae'r comedïwr a'r cyflwynydd Tudur Owen yn rhybuddio y gall enwau lleoedd Cymraeg ddiflannu os nad ydyn nhw yn cael eu defnyddio.
15 Mehefin 2023
Bydd S4C yn darlledu holl gemau pêl-droed rhyngwladol dynion Cymru tan 2028 mewn cytundeb newydd mewn partneriaeth â Viaplay.
07 Mehefin 2023
Mae S4C wedi cryfhau ei hadran Cyfathrebu a Marchnata mewnol, gan benodi Manon Edwards Ahir yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata i arwain tîm sy'n cynnwys y Pennaeth Marchnata – Rebecca Griffiths a benodwyd yn ddiweddar, a'r Arweinydd Cyfathrebu Gwyddno Dafydd.
06 Mehefin 2023
Fe wnaeth wythnos lwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 weld cynnydd yn y ffigyrau gwylio gyda'r gynulleidfa oedd yn gwylio rhaglenni uchafbwyntiau nosweithiol S4C yn dyblu o gymharu â llynedd.
06 Mehefin 2023
Shane Williams ac Ieuan Evans ar daith i gartref Cwpan Rygbi'r Byd
1 Mehefin 2023
Mae cewri byd perfformio Cymru wedi talu teyrnged i'r actor, Dafydd Hywel, mewn rhaglen deledu arbennig.
24 Mai 2023
Mwy Na Daffs a Taffs - Mae'r gyfres gan griw Hansh S4C yn ceisio chwalu'r ystrydebau am Gymru, gyda'r cyflwynydd Miriam Isaac yn dod â thri o selebs byd realiti y DU i Gymru am ddeuddydd - pwy? Brenhines y drag Blu Hydrangea; y gantores, model a brenhines Insta Tallia Storm; a'r cyflwynydd teledu a radio, Vick Hope.
16 Mai 2023
Am y tro cyntaf erioed, mi fydd penodau'r gyfres newydd LEGO® DREAMZzz ar gael i'w gwylio yn Gymraeg, a hynny ar S4C.
25 Ebrill 2023
S4C yn ymuno â Chronfa Deledu Di-Sgript Screenskills, gan atgyfnerthu ymrwymiad y gronfa i gefnogi hyfforddiant a datblygiad
18 Ebrill 2023
Y cogydd Chris 'Flamebaster' Roberts, y bardd a llenor Caryl Bryn, a'r sylwebydd pêl-droed Owain Tudur Jones yw'r selebs newydd sy'n barod i ymgymryd â Her Tyfu Garddio a Mwy eleni, yn dilyn llwyddiant y sialens ar gyfryngau cymdeithasol Garddio a Mwy y llynedd.
Mae Tisho Fforc?, un o raglenni Hansh, gwasanaeth ar-lein S4C wedi llwyddo i gipio gwobr yng ngwobrau New Voice Awards 2023 a gynhaliwyd yn Llundain neithiwr (nos Wener 6 Ebrill).
27 Mawrth 2023
Gyda 1 o bob 4 o boblogaeth Cymru dros eu pwysau, mae cymryd gofal o'n iechyd mor bwysig ag erioed. Ac ar ddechrau Ebrill, mi fydd y gyfres FFIT Cymru yn dychwelyd i rannu syniadau positif ac ysbrydoledig gyda'r genedl.
27 Mawrth 2023
Gan barhau â strategaeth S4C i gomisiynu cynnwys o safon uchel ar gyfer cynulleidfa fyd-eang, mae'r sianel wedi rhoi'r golau gwyrdd i ddwy ddogfen chwaraeon newydd.