Anghofiwch Real, Atleti oedd y stori ym Madrid dros y Sul!

atletico
Gary Pritchard

Gary Pritchard

Dydd Mercher, 28 Aug 2013, 10:37

Beth am geisio anghofio am Barcelona a Messi a hyd yn oed Real Madrid a Gareth Bale am un penwythnos; wedi’r cwbwl, mae ’na dimau eraill yn y Primera!

Ar ôl colli Radamel Falcao i Monaco yn ystod yr haf, roedd llawer o’r gwybodusion yn darogan tymor anodd i Atlético Madrid, ond mae’n rhaid canu clodydd clwb sy’n gallu gwerthu Falcao am €51m ac yna mynd allan a prynnu David Villa o Barcelona am €2.1m!

Ac mae’r Rojiblancos wedi dechrau’r tymor ar dân gan sgorio wyth gôl mewn dwy gêm yn erbyn Sevilla a Rayo gyda’r dyn oedd yn denu sylw Lerpwl dros yr haf, Diego Costa, yn rhwydo tair ohonynt.

Ond ar ôl rhedeg allan o stêm ar ddiwedd tymor diwethaf, gan orffen yn drydydd er gwaethaf treulio’r rhan fwyaf o’r tymor uwch ben eu cymdogion cyfoethog, bydd Diego Simeone yn ymwybodol iawn bod ’na 36 gêm arall i’w chwarae … heb sôn am Gynghrair y Pencampwyr

Ar ôl tymor i’w anghofio tymor diwethaf, mae rheolwr newydd Athletic, Ernesto Valverde, wedi gosod ei stamp yng Ngwlad y Basg wrth i Los Leones ennill eu dwy gêm agoriadol.

Roedd yn noson swreal yn yr Anoeta nos Wener wrth i 20,000 o gefnogwyr Athletic deithio’r 60 milltir i Donostia ar gyfer gêm ‘gartref’ ar faes eu gelynion, Real Sociedad, gan nad yw’r San Mamés Barria yn barod.

A thra bo cefnogwyr Athletic yn hapus ar ôl dwy gêm, mae selogion El Madrigal ar ben eu digon wedi i Villarreal gael y dechrau gorau posib i’w tymor cyntaf yn ôl yn y Primera gyda record 100% ar ôl dwy gêm.

Roedd hi’n benwythnos hanesyddol i dîm arall esgynodd o’r Segunda dros yr haf wrth i Elche rwydo eu gôl gyntaf yn y Primera ers 24 mlynedd wrth i Corio rwydo wedi dau funud o’u gêm yn erbyn Real Sociedad ond methodd Los Franjiverdes a dal ymlaen am fuddugoliaeth hanesyddol wrth i’r Basgwyr rwydo gôl hwyr i ddod yn gyfartal.

Mae’n siwr mai Bale-mania fydd yn mynd â’n bryd ni erbyn wythnos nesaf, felly chi gefnogwyr y clybiau eraill, mwynhewch eich eiliad yn yr haul!