Canlyniad campus i’r Bala

Y Bala’n dathlu sgorio yn erbyn Levadia (llun Gareth hughes)
Sgorio

Sgorio

Dydd Mawrth, 2 Jul 2013, 20:16

Y Bala 1-0 Levadia Tallinn

Cafodd Y Bala’r dechrau delfrydol i’w hymgyrch Ewropeaidd wrth i Ian Sheridan rwydo unig gôl y gêm yn erbyn Levadia Tallinn yng nghymal cyntaf eu gêm yng Nghynghrair Europa.

Efallai bod y tîm o Estonia ar frig y Meistriliga ar ôl chwarae 16 o gemau yn barod y tymor yma, ond tîm Colin Caton gafodd y dechrau gorau ar faes y Belle Vue, Y Rhyl.

Gyda pedwar munud yn unig ar y cloc, llwyddodd cic gornel Kenny Lunt i greu problemau yng nhwrt cosbi’r ymwelwyr a Sheridan oedd y cyntaf i ymateb gan doi’r bêl heibio i Roman Smiško er mwyn rhoi’r Bala ar y blaen.

Ond roedd angen i golwr Y bala, Ashley Morris fod yn effro, wrth iddo arbed yn dda i rwystro chwaraewr rhyngwladol Estoni Ilja Antonov ac Andreas Raudsepp.

Mewn ail hanner agored, llawn cyffro cafodd y ddau dîm gyfleoedd i rwydo gyda chyn chwaraewr Cymru a Wrecsam, Mark Jones yn gorfodi Smiško i arbed yn dda cyn i Sheridan hefyd brofi’r golwr ag ergyd rymus.

Crafodd Artjom Artjunin y postyn â chic rydd wedi 79 munud wrth i’r ymwelwyr fygwth yn y chwarter awr olaf.

Ond yn ogystal ag amddiffyn yn gadarn roedd Y Bala’n sydyn iawn i wrth ymosod gyda Sheridan a Lewis Codling yn profi’n lond llaw i amddiffyn Levadia.

A chyda naw munud yn weddill, bu ond y dim i Sheridan ddyblu mantais Y Bala, ond llwyddodd Smiško i gael blaenau ei fysedd i ergyd haerllyg yr ymosodwr.


Y Bala: 1. Morris, 3. Collins, 4. S. Jones, 5. Valentine, 7. Connolly (11. Edwards 81′), 20. Lunt, 6. Murtagh, 8. M. Jones, 17.Brown, 10. Sheridan (19. Lewis 90′), 16. Davies (18. Codling 46′)

Eilyddion eraill: 23. Boswell, 14. Renaud, 22. R. Jones, 30. Pierce

Cerdyn melyn: Davies 16′

Gôl: Sheridan 4′

Levadia: 1. Smiško, 3. Artjunin, 17. Podholjuzin, 19. Kulinitš, 21. Jahhimovitš, 22. Pikk, 27. Raudsepp, 10. Subbotin, 6. Antonov, 28. Hunt (11. Teever 83′), 23. Kaljumäe (9. Rättel 46′)

Eilyddion eraill: 30. Pikker, 2. Ingermann, 20. Pebre

Dyfarnwr: Vasilis Dimitriou (Cyprus)

Torf: 1,287