Oriel yr Anfarwolion: Lee Trundle

oriel-trundle
Sgorio

Sgorio

Dydd Mercher, 23 Jan 2013, 14:42

Cyn chwaraewr Y Rhyl a Chastell-nedd, Lee Trundle, yw’r nesaf i ymuno ag Oriel yr Anfarwolion.

Yn chwaraewr talentog llawn goliau, llwyddodd Trundle i godi proffil y gynghrair gyda’i ddawn, ei driciau a’i lygaid am gôl.

Gwnaeth ei farc yn y gynghrair am y tro cyntaf gyda’r Rhyl gan rwydo 18 o goliau mewn dim ond 15 ymddangosiad yn 2000/01 – record oedd yn ddigon i reolwr Wrecsam ar y pryd, Brian Flynn, ei gymryd i’r Cae Ras.

Ar ôl dwy flynedd gyda Wrecsam, dilynodd Flynn i dde Cymru ac Abertawe cyn dod y chwaraewr cyntaf o Uwch Gynghrair Cymru i fynd ymlaen i symud am £1miliwn pan ymunodd â Bristol City yn 2007.

Symudodd Trundle yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru yn 2010 pan synnwyd y byd pêl-droed Cymreig wrth iddo arwyddo i Gastell-nedd. Rhwydodd 29 o goliau i’r Crysau Duon mewn dau dymor cyn i ddiflaniad y clwb ei weld yn gadael Cymru am Preston North End.