Oriel yr Anfarwolion: Mark Delaney

oriel-delaney
Sgorio

Sgorio

Dydd Mawrth, 21 May 2013, 09:14

Y diweddaraf i’w urddo i Oriel yr Anfarwolion yw cyn amdiffynnwr Caerfyrddin a Chymru, Mark Delaney.

Dechreuodd Delaney ei yrfa ar Barc Waun Dew gan ddod yn ffefryn y cefnogwyr ac yn gapten ar y clwb er dim ond yn 20-mlwydd-oed.

Ond roedd ei ddawn yn amlwg ac wedi dim ond 58 o gemau i Gaerfyrddin rhwng 1996 a 1998, cafodd ei arwyddo gan Gaerdydd ac, ymhen llai na blwyddyn, roedd yn chwarae dros Aston Villa yn Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl cael ei brynnu am £250,000.

Delaney oedd y chwaraewr cyntaf i gamu ymlaen o chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru i ennill cap i dîm rhyngwladol Cymru pan cafodd ei ddewis i chwarae yn erbyn Y Swistir ar Y Cae Ras, Wrecsam ym mis Hydref, 1999 – dim ond 16 mis ers gadael Parc Waun Dew.

Casglodd 36 cap dros ei wlad ac roedd yn aelod allweddol o’r tîm drechodd Yr Eidal yn 2002.

Dioddefodd Delaney anaf i’w ben-glin orfododd iddo ymddeol yn 2007 ond mae’n parhau i weithio i Aston Villa fel hyfforddwr ieuenctid.