Sgorio i ddechrau’r tymor gyda’r Seintiau

kickoff

Bydd Sgorio yn dechrau tymor Uwch Gynghrair Cymru gyda gêm fyw o Neuadd y Parc wrth i’r Seintiau Newydd gychwyn amddiffyniad eu coron trwy groesawu Port Talbot i Groesoswallt ar ddydd Sadwrn 24 Awst.

A bydd yn benwythnos prysur i’r clybiau ac i dîm Sgorio wrth i’r camerau symud i Nantporth ar gyfer gêm fawr dydd Llun Gŵyl y Banc wrth i Fangor groesawu Y Rhyl yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru yng ngêm ddarbi’r arfordir.

Prestatyn sydd â’r fraint o ddechrau’r tymor yn swyddogol wrth groesawu eu cyd anturaiethwyr Ewropeaidd, Y Bala, i Erddi Bastion ar nos Wener 23 Awst, tra bod Airbus UK, fydd hefyd wedi bod ar daith Ewropeaidd, yn croesawu Caerfyrddin i’r Maes Awyr ar y prynhawn Sadwrn.

Hefyd ar y prynhawn Sadwrn bydd y newydd ddyfodiaid, Y Rhyl, yn croesawu Aberystwyth i Belle Vue yn eu gêm gyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru ers 2010 tra bo Bangor yn teithio i’r Drenewydd a Gap Cei Connah yn wynebu Lido Afan ar Lannau Dyfrdwy.

Bydd camerau Sgorio yn teithio ar hyd a lled Cymru yn yr wythnosau agoriadol gan ymweld â:
31 Awst 2013 – Lido Afan v Airbus UK
7 Medi 2013 – Prestatyn v Gap Cei Connah
14 Medi 2013 – Y Bala v Y Drenewydd
21 Medi 2013 – Y Seintiau v Bangor,
28 Medi 2013 – Aberystwyth v Y Bala
5 Hydref 2013 – Airbus UK v Y Seintiau Newydd

Gemau agoriadol Uwch Gynghrair Cymru
Nos Wener 23 Awst
Prestatyn v Y Bala

Dydd Sadwrn 24 Awst
Airbus UK v Caerfyrddin
Gap Cei Connah v Lido Afan
Y Drenewydd v Bangor
Y Rhyl v Aberystwyth
Y Seintiau Newydd v Port Talbot

Dydd Llun 26 Awst
Aberystwyth v Lido Afan
Bangor v Y Rhyl
Port Talbot v Gap Cei Connah
Prestatyn v Y Seintiau Newydd
Y Bala v Airbus UK
Y Drenewydd v Caerfyrddin

Mae rhestr llawn o gemau Uwch Gynghrair Cymru i’w gweld yma