Cymru, Lloegr a … Slofacia a Rwsia

International Football – UEFA Euro 2016 Draw
Sgorio

Sgorio

Dydd Sul, 13 Dec 2015, 09:00

Mae Chris Coleman a’i dîm yn gwybod bellach mai Lloegr, Slofacia a Rwsia fydd eu gwrthwynebwyr yn rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc haf nesaf … ond be’ da ni’n wybod amdanyn nhw?

Mae Sgorio wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith cartref ar eich rhan chi!

Y gwrthwynebwyr

Lloegr
Be ’da ni’n wybod?
Wel, be sydd i’w ddweud? Roedd cefnogwyr Cymru wedi eu rhannu bron yn 50/50 ynghylch tynnu’n cymdogion allan o’r het fel prif ddetholion y grŵp.
Na, does dim sêr amlwg ganddyn nhw ar y funud, ond wedi dweud hynny fe lwyddodd tîm Roy Hodgson i sicrhau eu lle yn Ffrainc gyda record 100% yn eu grŵp.

Y tro diwethaf
6 Medi 2011 – Lloegr 1-0 Cymru
Ashley Young sgoriodd unig gôl y gêm wrth i dîm Fabio Capello agosau at sicrhau eu lle yn Euro 2012 ond bydd cefnogwyr Cymru’n cofio perfformiad arwrol Darcy Blake (be ddigwyddodd iddo ef?!) a cyfle hwyr Rob Earnshaw i ddod a Cymru’n gyfartal.

Rwsia
Be ’da ni’n wybod?
Cafodd Rwsia haf i’w anghofio yng Nghwpan y Byd 2014 ym Mrasil wrth hedfan adref heb yr un buddugoliaeth. A cafodd Fabio Capello ei ddiswyddo wedi dechrau digon symol i gemau rhagbrofol Euro 2016 gyda dim ond dwy buddugoliaeth o’u chwe gêm agoriadol.

Llwyddodd Leonid Slutskiy i gyfuno ei rôl fel rheolwr CSKA Moscow gyda rôl rheolwr y tîm cenedlaethol a gwyrdroi yr ymgyrch yn lwyr wrth i Rwsia orffen yn ail yng Ngrŵp Rhagbrofol G, tu ôl i Awstria.

Y tro diwethaf
9 Medi 2009 – Cymru 1-3 Rwsia
James Collins sgoriodd i ddod â Cymru yn gyfartal yn Stadiwm y Mileniwm ond sgoriodd Sergei Ignashevich a Roman Pavlyuchenko i ychwanegu at gôl gynnar Igor Semshov a selio’r fuddugoliaeth. Ond ys gwn i faint all enwi’r gŵr enillodd ei gap cyntaf dros Gymru y noson honno?

Bydd cyfle i Gymru dalu’r pwyth yn ôl am y golled yng ngemau ail gyfle Euro 2004 a’r prawf cyffuriau fethodd Igor Titov hefyd.

Brian Stock ydi’r ateb, gyda llaw!

Slofacia
Be ’da ni’n wybod?
Wel ia, cwestiwn da! Llwyddodd Slofacia i gyrraedd Ffrainc gan orffen yn ail yng Ngrŵp C tu ôl i Sbaen. Cafwyd saith buddugoliaeth o’r bron yn ystod yr ymgyrch a buddugolaiaeth wych 2-1 dros Sbaen yn ôl ym mis Hydref 2014.

Y tro diwethaf
12 Medi 2007 – Slofacia 2-5 Cymru
Dim ond dwy waith mae Cymru wedi wynebu Slofacia gyda’r ddwy gêm yn dod yn ystod gemau rhagbrofol Euro 2008. Rhwydodd Craig Bellamy ddwy gôl yn Trvana wrth i Gymru ennill 5-2 a thalu’r pwyth yn ôl am golled 1-5 yn Stadiwm y Mileniwm yn gynharach yn yr ymgyrch. Gareth Bale sgoriodd unig gôl Cymru yn y gêm gartref – y chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio dros Gymru yn 17 mlwydd 83 diwrnod oed.

Y lleoliadau

Bydd Cymru’n chwarae mewn rhai o’r stadiymau lleiaf yn y twrnament. Dim ond 38,223 o dorf fydd yn gallu gwasgu mewn i Stade Bollaert-Delelis, cartref RC Lens, ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr. 33,300 ydi uchafswm y dorf yn Toulouse ar gyfer ein gêm yn erbyn Rwsia tra bod 42,115 o dorf yn gallu gwylio Cymru v Slofacia yn Nouveau Stade de Bordeaux.

Y teithio

O Bordeaux i Lens i Toulouse – taith o tua 1,028 o filltiroedd a tua 10 awr mewn car!

Yr ymateb

Dyma oedd gan Gareth Bale i’w ddweud ar Twitter.