Duane Saunders yn trafod dylanwad cadarnhaol Rhys Griffiths

duane-saunders-3
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Llun, 5 Dec 2016, 13:07

Duane Saunders, ffisiotherapydd Pen-y-bont yn trafod dylanwad Rhys Griffiths ers ymuno â’r clwb fel rheolwr yn haf 2016.

Mae Pen-y-bont yn 6ed ym Mhrif Adran y De ac ymlaen i 4edd rownd Cwpan Cymru ar ôl trechu Airbus UK o 4-1 brynhawn Sadwrn, gyda’r chwaraewr-reolwr, Rhys Griffiths yn rhwydo un o’r goliau.

Mae Rhys Griffiths yn ail ar restr prif -sgorwyr holl hanes Uwch Gynghrair Cymru ac yn un o’r 20 gafodd eu henwi yn ‘Oriel yr Anfarwolion’ yn 2013.