5-y-penwythnos

5 y penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos yn Uwch Gynghrair Cymru.

Dave Roberts (Llandudno)
Roedd golwr Llandudno Dave Roberts yn dechrau ei 250fed gêm yn UG Cymru nos Wener, ac er mae colli 1-0 oedd hanes ei glwb yn erbyn y pencampwyr, Y Seintiau Newydd fe wnaeth Roberts sawl arbediad da i sicrhau bod y sgôr yn aros yn isel. Mae Roberts wedi chwarae pob eiliad o 70 gêm Llandudno ers eu dyrchafiad i UG Cymru yn 2016, ac mae wedi cadw pedair llechen lân mewn chwe gêm hyd yma’r tymor hwn.

Steven Hewitt (Bangor)
Cafwyd diweddglo hynod ddramatig i’r gêm rhwng Aberystwyth a Bangor ar Goedlan y Parc brynhawn Sadwrn gyda tair gôl yn cael ei sgorio yn y munudau olaf o’r gêm. Roedd hi’n 1-1 pan roddodd Brayden Shaw Bangor ar y blaen wedi 89 munud, cyn i Craig Hobson unioni i Aber funud yn ddiweddarach. Ond Steven Hewitt oedd arwr y Dinasyddion wrth iddo gladdu foli fendigedig i gefn y rhwyd o yml cwrt wedi 92 o funudau yn ei ymddangosiad llawn cyntaf yn UG Cymru.

Ilan ap Gareth (Derwyddon Cefn)
Y Derwyddon achosodd sioc fwya’r penwythnos wrth roi crasfa 3-0 i’r Bala ar y Graig nos Iau. A’r bachgen o’r Bala, Ilan ap Gareth roddodd y tîm cartref ar y blaen yn ei ymddangosiad llawn cyntaf yn UG Cymru. Dyna’r tro cyntaf i’r Derwyddon guro un o’r ‘4 Uchaf’ ers eu dyrchafiad yn ôl i UG Cymru yn haf 2016 (YSN, Cei Connah, Y Bala, Bangor).

Kayne McLaggon (Y Barri)
Dringodd blaenwr Y Barri, Kayne McLaggon i frig rhestr y prif sgorwyr ar ei benblwydd nos Iau ar ôl rhwydo ddwywaith yn erbyn Caerfyrddin gan ddod a’i gyfanswm am y tymor i bedair gôl yn UG Cymru. Yn ogystal â rhwydo pedair gôl y tymor yma, mae McLaggon wedi creu yr unig ddwy gôl arall i’r Barri ei sgorio yn UGC y tymor yma, felly mae wedi chwarae rôl allweddol yn 100% o goliau’r clwb y tymor yma!

Luke Borrelli (Aberystwyth)
Er colli yn y modd mwyaf torcalonus gartref yn erbyn Bangor brynhawn Sadwrn, fe gafodd Luke Borrelli gêm dda i’r Gwyrdd a’r Duon gan sgorio gôl ragorol i roi’r tîm cartref ar y blaen gyda foli safonol i gornel y rhwyd. Crëodd Borrelli ail gôl Aber hefyd wrth groesi’n isel i Craig Hobson unioni’r sgôr cyn i Fangor gipio’r triphwynt yn yr eiliadau olaf.