Georgia v Cymru

georgia v cymru
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 1 Hyd 2017, 09:00

Wedi brwydro’n galed i drechu Awstria a Moldofa ym mis Medi, mae’r ras i Rwsia yn cyrraedd penllanw cyffrous i garfan Chris Coleman a’u cefnogwyr. Os yw’r Wal Goch am gael gweld y Sgwâr Coch mae angen ennill eu dwy gêm ragbrofol olaf i sicrhau lle yn y gemau ail gyfle. Y gyntaf o’r rheiny yw’r daith bell ac anodd i wynebu Georgia yn Arena Boris Paichadze yn Tbilisi. Georgia v Cymru yn fyw ar S4C prynhawn Gwener, 6 Hydref am 16:30 gyda’r gic gyntaf am 17:00.

Dydy Cymru erioed wedi curo Georgia, ac ar eu hymweliad olaf â Tbilisi yn 1994, fe wnaethon nhw golli’n drwm o bum gôl i ddim gyda Chris Coleman yng nghanol yr amddiffyn! Bydd angen gwell perfformiad a chanlyniad yn nwyrain Ewrop cyn cwrdd â’r Gwyddelod yng Nghaerdydd yn y gêm olaf dyngedfennol.

Mae carfan Chris Coleman 4 pwynt y tu ôl i Serbia gyda dwy gêm yn weddill – y daith i Georgia, ac yna Gweriniaeth Iwerddon nos Lun. Yn y cyfamser bydd y tîm ar y brig – Serbia – yn teithio i Awstria nos Wener cyn wynebu Georgia gartref nos Lun.

Mi fydd rhaid i Cymru ymdopi heb Gareth Bale ar gyfer y ddwy gêm gyda’r Gymdeithas Bêl-droed yn cyhoeddi fod y blaenwr yn methu’r gemau oherwydd anaf – gyda Tom Bradshaw yn ymuno â’r garfan yn ei le.

Roedd Bale yn absennol o garfan Real Madrid â drechodd Espanyol 2-0 nos Sul, ond yn wreiddiol roedd gobaith fod Bale ar gael ar gyfer gemau olaf Cymru yn y gemau rhagbrofol.

Mae dau wyneb newydd yn ymuno â’r garfan am y tro cyntaf – golwr Preston, Chris Maxwell (gynt o Wrecsam a Chei Connah!), a chwaraewr canol cae Sheffield United, David Brooks. Mae Brooks wedi chwarae i dîm dan 20 Lloegr yn Nhwrnament Toulon ym mis Mehefin cyn cynrychioli Cymru dan 21 ym mis Medi v Y Swistir a Phortiwgal. Mae’n gymwys i chwarae i Gymru diolch i’w fam sy’n dod o Langollen.

Gall Aaron Ramsey ennill ei hanner canfed cap heno. Mae o wedi rhwydo 13 gôl i Gymru – heibio Dai Astley a Ryan Giggs (12) gyda’i gôl ym Moldofa, yn gyfartal gyda John Toshack (13), ac yn agosau at John Hartson (14), Cliff Jones a John Charles (15).

Georgia v Cymru – yn fyw ar S4C dydd Gwener, 6 Hydref am 16:30 gyda’r gic gyntaf am 17:00.