Rijeka v Y Seintiau Newydd yn fyw ar-lein.

rijeka v TNS 2
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 10 Jul 2017, 13:08

Fe fydd Sgorio yn dangos cymal cyntaf ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr rhwng Rijeka, o Croatia, a’r Seintiau Newydd yn fyw ar Facebook ac ar wefan S4C nos Fawrth (11/07/17) am 19:45.

Ar ôl curo Europa FC o Gibraltar 4-3 dros ddau gymal mi fydd Y Seintiau yn herio pencampwyr Croatia, Rijeka yn Stadiwm Rujevica nos Fawrth.

Bryn Tomos fydd yn y pwynt sylwebu ar gyfer y darllediad uniaith Gymraeg yn unig.

Mi fydd cefnogwyr Uwch Gynghrair Cymru yn cofio’r frwydr rhwng Prestatyn a Rijeka yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa yn ôl yn 2013/14, gyda’r tîm o Groatia yn ennill 8-0 dros ddau gymal.

Ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr, Rijeka v Y Seintiau Newydd yn fyw ar wefan S4C a Facebook Live Sgorio nos Fawrth am 19:45.