Sgorio

w26 sbaen 2
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 13 Feb 2017, 14:58

Ymunwch â Morgan Jones ar gyfer uchafbwyntiau holl gemau Uwch Gynghrair Cymru Dafabet a La Liga. Nos Lun am 6:30 ar S4C.

Yn Sbaen, mae Real Madrid a Barcelona yn teithio i Wlad y Basg. Bydd Real Madrid yn herio Osasuna yn Pamplona tra bo Barcelona yn chwarae Alaves yn Vitoria. Mae Sevilla ar grwydr hefyd i’r Ynysoedd Dedwydd i wynebu melynion Las Palmas.

Yng Nghymru, mae gap Cei Connah yn teithio o Lannau Dyfrdwy i Lannau’r Fenai i fynd benben â Bangor. Yng ngemau eraill y chwech uchaf mae Caerfyrddin gartre’ yn erbyn Y Seintiau Newydd a Met Caerdydd yn mentro i’r Bala. Yn y chwech isaf, mae Airbus UK angen buddugoliaeth yn erbyn Llandudno, Y Drenewydd yn wynebu’r Rhyl ar Barc Latham a Derwyddon Cefn yn croesawu Aberystwyth i’r Graig.