NEWYDDION: Craig Harrison yn ymuno â Chei Connah

CRAIG HARRISON
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 19 Hyd 2018, 13:48

Mae Harrison wedi gadael ei swydd fel rheolwr Bangor i ymuno â Chei Connah fel aelod o’r tîm rheoli. Bydd Harrison yn dychwelyd i Neuadd y Parc nos Sadwrn lle llwyddodd i godi tlws Uwch Gynghrair Cymru ar chwech achlysur gyda’r Seintiau Newydd.

Fe fydd camerâu Sgorio ar Neuadd y Parc i ddal yr ymateb gan y clybiau, gyda’r gêm rhwng Y Seintiau Newydd a Chei Connah yn fyw ar S4C am 7.20 nos Sadwrn.