Cyfle i Gei Connah gamu’n glir ar y copa

NCM_3470
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 21 Nov 2018, 07:29

Gwahaniaeth goliau’n unig sy’n gwahanu’r tri uchaf yn UG Cymru, ond mae gan Gei Connah gyfle i fynd driphwynt yn glir o’r Seintiau a’r Barri heno ‘ma.

Nos Fercher, 21 Tachwedd

Y Drenewydd v Cei Connah | Nos Fercher – 19:45
Gan bod Cei Connah wedi bod yn brysur yn cystadlu yng Nghwpan Irn Bru dros y penwythnos mae ganddyn nhw gêm wrth gefn yn Uwch Gynghrair Cymru, a chyfle i agor bwlch ar y brig.

Enillodd y Nomadiaid yn erbyn Queen’s Park yn rownd wyth olaf Cwpan Irn Bru nos Wener (1-2), ond yn y cyfamser mae’r Seintiau wedi gallu dod yn hafal â’r Nomadiaid a’r Barri ar gopa’r cynghrair.

Ar ôl dau dymor yn y Chwech Isaf, mae’r Drenewydd yn dechrau’r gêm yn y 6ed safle, a byddai buddugoliaeth yn eu codi uwchben Aberystwyth a’r Bala i’r 4ydd safle.

Dyw’r Robiniaid heb golli dim un o’u saith gêm gartref ym mhob cystadleuaeth y tymor yma, a dim ond YSN sydd wedi gallu sicrhau pwynt oddi cartref ar Barc Latham y tymor hwn.

Enillodd tîm Chris Hughes 7-1 yn eu gêm ddiwethaf, gartref yn erbyn Llanelli bron i bythefnos yn ôl, ac mae’r Drenewydd wedi ennill tair o’u pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Cei Connah ar Barc Latham.

Ond Cei Connah enillodd y gêm gyfatebol rhwng y ddau dîm y tymor hwn yng Nglannau Dyfrdwy nôl ym mis Medi (Cei 3-1 Dre).

Canlyniadau diwethaf yn UGC:
Y Drenewydd: ❌✅➖➖✅
Cei Connah: ✅❌➖✅➖

Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefan Sgorio ddydd Iau.