Cymru v Sbaen

Football – International Friendly – Wales v Spain – MD-1
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 10 Oct 2018, 17:40

Yn fyw nos Iau am 19:25, gyda’r gic gyntaf am 1945. Cyfle i weld Cymru yn dychwelyd i Stadiwm Principality ar gyfer gêm yn erbyn un o gewri’r byd pêl droed. Dyw’r Dreigiau ddim wedi chwarae yn y stadiwm ers 2011 ac mae hi’n addo bod yn achlysur arbennig yn erbyn cyn pencampwyr y byd. Bydd rhai o chwaraewyr gorau’r byd i’w gweld wrth i’r gwledydd gwrdd am y tro cyntaf ers 1985. Ymunwch a chriw Sgorio ar gyfer noson i’w chofio yn y brifddinas.