Rhagolwg: Rownd Derfynol Cwpan Nathaniel MG 2017/18

Pencampwyr Cwpan Nathaniel MG 2016/17
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 19 Jan 2018, 09:52

Prynhawn Sadwrn fydd Met Caerdydd yn herio Y Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG ar Goedlan y Parc, Aberystwyth ac hynny yn fyw ar S4C am 17:00.

Met Caerdydd v Y Seintiau Newydd17:15
Dyw Met Caerdydd erioed wedi curo Pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd – a dyma fydd y seithfed gêm rhwng y ddau glwb.

Hon yw ffeinal cyntaf Met Caerdydd ar y lefel uchaf yng Nghymru ers ffurfio’r clwb newydd yn 2000.

Mae’r Seintiau 12 pwynt yn glir ar frig tabl UGC, wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Irn Bru, ymlaen i pedweredd rownd Cwpan Cymru ac yn ffefrynnau i godi Cwpan y Gynghrair ddydd Sadwrn am y pedwerdydd tymor yn olynol.

Met Caerdydd sydd â’r record amddiffynnol gorau yn UGC – ildio 17 mewn 22 (0.8 gôl y gêm) gan gadw 11 llechen lân ac mae’r blaenwr Adam Roscrow yn gobeithio dychwelyd yn nol i’r garfan yn barod i wynebu’r Seintiau ddydd Sadwrn wedi iddo fod yn absenol yn dilyn anaf ers mis Tachwedd.

 fydd hyn yn ddigon i gipio’r Gwpan o ddwylo’r Seintiau – y tîm fwyaf llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth? Fe gewn ni weld brynhawn Sadwrn!

Ymunwch ag Dylan Ebenezer ac Owain Tudur Jones i wylio’r gêm yn fyw ar y we ar ein tudalen Facebook.com/Sgorio am 16:30 neu ar S4C am 17:00 ddydd Sadwrn (20.01)

Heddiw mewn hanes

20 Ebrill

Ar y diwrnod yma ym 1994, dechreuodd Mike Smith ei ail gyfnod wrth y llyw â thîm cenedlaethol Cymru.