Siom arall i’r Cymry

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 12 Jul 2018, 20:34

Y Nomadiaid yn colli o 1-3 gôl yn erbyn Shakhtyor Soligorsk yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.

Cliciwch yma i weld yr uchafbwyntiau.

Fe sgoriodd Max Ebong i’r ymwelwyr wedi 19 munud, cyn i ymosodwr rhyngwladol Albania, Elis Bakaj daro ergyd isel i gornel isa’r rhwyd i ddyblu’r fantais i Soligorsk.

Daeth unig gyfle arall yr hanner cyntaf i’r Nomadiaid wrth i gic rydd Michael Bakare gael ei harbed gan Andrei Klimovich.

Shakhtyor ar y blaen 0-2 hanner amser.

Gyda llai na chwarter awr ar y cloc, cic rydd o 25-llath gan Mihhail Shibun yn profi yn rhy dda i’r golwr, John Danby ac yn ymestyn y fantais i Soligorsk.

Fodd bynnag, wedi 88 o funudau, Callum Morris yn sgorio o’r smotyn yn rhoi llygedyn o obaith i fechgyn Andy Morrison wrth i’r clwb baratoi at daith i Felarws ar gyfer yr ail gymal nos Iau nesaf, 19eg o Orffennaf.

Bydd uchafbwyntiau’r cymal cyntaf i’w gweld ar wefan Sgorio brynhawn Gwener, 13 Gorffennaf.