5-y-penwythnos

5 y penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Lee Idzi (Caerfyrddin)
Bu Lee Idzi yn brysur rhwng y pyst brynhawn Sadwrn i gadw llechen lân yn erbyn Met Caerdydd (y tro cyntaf i’r myfyrwyr fethu a sgorio mewn gêm ers mis Tachwedd). Dyw’r Hen Aur bellach ond triphwynt y tu ôl i Met Caerdydd yn y ras am y 7fed safle.

Darren Thomas (Caernarfon)
Y Cofi Messi grêodd y ddwy gôl wrth i Gaernarfon guro’r Barri 2-0 i ddringo i’r 4ydd safle. Roedd y rhediad a’r bas ar gyfer y gôl gyntaf yn fendigedig a dyw’r Cofis bellach ond wedi colli un o’u 12 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.

Nathan Craig (Caernarfon)
Fe rwydodd capten y Canerîs am y 12fed tro’r tymor hwn brynhawn Sadwrn, ond hon oedd ei gôl gyntaf o chwarae agored (8 cic o’r smotyn, 3 cic rydd)! Mae’r cefnwr chwith yn 4ydd ar restr prif sgorwyr UG Cymru y tymor yma.

Geoff Kellaway (Aberystwyth)
Mae Aberystwyth wedi cau’r bwlch ar Met Caerdydd yn y ras am y 7fed safle ar ôl cipio pwynt yn erbyn Llandudno nos Wener. Roedd angen gôl arbennig gan y gŵr profiadol Geoff Kellaway i achub pwynt i Aber ar Goedlan y Parc.

Michael Wilde (Cei Connah)
Bu Wilde yn bygwth gyda’i dalcen drwy’r prynhawn ar Barc Latham, yn ennill y peli uchel yn gyson ac fe gafodd ei wobr yn hwyr yn y gêm gan benio’r gôl fuddugol i yrru Cei Connah yn ôl i frig tabl UG Cymru. Honno oedd gôl rhif 176 i Michael Wilde yn UG Cymru a bellach dyw ond un gôl y tu ôl i Chris Summers, sy’n 3ydd ar restr prif sgorwyr holl hanes y cynghrair.