5-y-penwythnos

5 y pen 16×9
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 25 Tach 2019, 20:59

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

George Ratcliffe – Y Barri
Wythnos dda i’r golwr ifanc gan gadw llechen lân i Gymru dan 21 ac i’r Barri.

Ratcliffe yw’r unig golwr i gadw llechen lân yn erbyn Pen-y-bont y tymor hwn, gan gadw ei bumed lechen lân o’r tymor – does neb wedi llwyddo i gadw mwy.

Luke Cummings – Y Barri
Ar ôl rhediad o golli tair gêm yn olynol llwyddodd Y Barri i ennill yn erbyn Pen-y-bont, gyda Luke Cummings yn serenu wrth sgorio ei gôl gyntaf i’r Barri yn y fuddugoliaeth 3-0 dros Ben-y-bont.

Ergyd nerthol o du allan i’r cwrt yn curo Rhys Wilson rhwng y pyst.

Eliot Evans – Met Caerdydd
Sgoriodd Evans gôl dda o du allan i’r cwrt cosbi i ennill y gêm i Met Caerdydd yn erbyn Derwyddon Cefn.

Dyma’r fuddugoliaeth gyntaf i’r myfyrwyr ers mis Medi, gyda Met yn dringo i’r chwech uchaf.

Josh Graham – STM Sports
Gôl Graham yn gyrru’r tîm o’r Cymru South i rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG am y tro cyntaf yn eu hanes.

Buddugoliaeth dda yn erbyn Aberystwyth o 2-1.

Michael Wilde – Cei Connah
Gôl Wilde yn selio’r fuddugoliaeth yn rownd gyn derfynol cwpan Nathaniel MG i yrru Cei Connah i’r rownd derfynol am y tro cyntaf ers 1996.

Mae Wilde wedi sgorio pum gôl yn ei bedair gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.