5-y-penwythnos

thumbnail_5 y pen 16×9
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 23 Rhag 2019, 19:30

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Will Fuller – Met Caerdydd

Perfformiad arwrol gan golwr Met Caerdydd wrth i’r myfyrwyr ennill ar Neuadd y Parc am y tro cyntaf yn eu hanes – sy’n cadw Met yn y ras am y chweched safle.

Roedd rhaid i Fuller weithio naill ochr i’r egwyl i gadw ei dîm ar y blaen, arbediad dwbl dda yn yr hanner cyntaf cyn arbed ergyd un yn erbyn un gan Dean Ebbe a chic rydd Ryan Brobbel i sicrhau buddugoliaeth hanesyddol i dîm Christian Edwards.

Kieran Mills-Evans – Y Drenewydd

Sgoriodd capten ar y dydd Y Drenewydd ei gôl gyntaf o’r tymor wrth i’r Drenewydd guro Pen-y-bont 0-2 yn Stadiwm Gwydr SDM.

Mae’r Robiniaid ar rediad da o ennill eu pedair gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth – heb ildio’r un gôl!

Sion Bradley – Caernarfon

Roedd Sion Bradley yn anlwcus i fethu allan ar 5 y penwythnos wythnos ddiwethaf ar ôl perfformiad da iawn yn erbyn Airbus ar Yr Oval – gan greu dwy gôl a rhwydo ei hun.

Roedd Sion Bradley eto yn rhan allweddol o dîm Caernarfon a lwyddodd i guro’r Hen Aur ar y Waun Dew – gwaith da Bradley ar yr asgell dde yn creu’r cyfle i Cai Jones selio’r fuddugoliaeth yn hwyr yn y gêm.

Mae’r Cofis wedi ennill chwech o’u saith gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth – gyda Bradley yn rhan allweddol o’r chwarae ymosodol gan greu pedair a sgorio dwy’r tymor yma.

Michael Bakare – Cei Connah

Collodd Bakare ei le yn y tîm ar ôl perfformiad sal penwythnos diwethaf – gyda rhediad heb golli’r tîm yn dod i ben yn erbyn Derwyddon Cefn.

Ond fe lwyddodd chwaraewr y tymor i greu argraff ar ôl dod ymlaen yn yr ail hanner i sgorio ddwywaith a chipio’r fuddugoliaeth i Gei Connah yn erbyn Y Bala.

Buddugoliaeth holl allweddol i Gei Connah yn y ras am y bencampwriaeth – trydedd fuddugoliaeth Cei Connah dros Y Bala’r tymor yma.

Will Evans – Met Caerdydd

Roedd hi’n berfformiad amddiffynnol gwych gan y myfyrwyr yn Neuadd y Parc gyda Will Evans yn gosod y tempo yn y llinell flaen.

Evans sgoriodd y gôl fuddugol, a dyw Met Caerdydd heb golli dim un o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Y Seintiau Newydd – record dda iawn yn erbyn y pencampwyr!