Cei Connah v Ross County – yn fyw ar S4C

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 22 Chw 2019, 16:29

Bydd rownd derfynol Cwpan Her Irn-Bru rhwng Cei Connah a Ross County yn fyw ar Sgorio, ar S4C.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Tulloch Caledonian, cartref Inverness Caledonian Thistle FC, ddydd Sadwrn 23 Mawrth, gyda’r gic gyntaf am 4.30 o’r gloch.

Bydd y Nomadiaid yn creu hanes, fel y clwb cyntaf o du allan i’r Alban i chwarae’n y rownd derfynol, ar ôl buddugoliaeth ddramatig ar giciau o’r smotyn yn erbyn Dinas Caeredin yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy yn y rownd gynderfynol.

Ross County fydd eu gwrthwynebwyr, y tîm ar frig Pencampwriaeth yr Alban, ar ôl iddyn nhw drechu East Fife o ddwy gôl i un yn y rownd gynderfynol arall.

Hon fydd ail rownd derfynol Cei Connah mewn llai na blwyddyn, yn dilyn eu llwyddiant yng Nghwpan Cymru JD fis Mai diwethaf, yn codi’r tlws am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl curo Aberystwyth o bedair i un.

Bydd tîm Sgorio yn cynnwys Owain Fôn Williams, gôl-geidwad Cymru ac Inverness, gyda sylwebaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.