Rhestr fer: Chwaraewr y Tymor 2018/19

tymor
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 31 Mai 2019, 11:00

Mae Uwch Gynghrair Cymru JD wedi cyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer chwaraewr y tymor 2018/19, gyda blaenwr Cei Connah Michael Bakare a thri o sêr Y Seintiau, Greg Draper, Aeron Edwards a Jamie Mullan yn cyrraedd y rhestr fer.

Greg Draper – Y Seintiau Newydd
Prif sgoriwr Uwch gynghrair Cymru am yr ail dymor yn olynol, mae goliau Greg Draper wedi bod yn ffactor mawr yn llwyddiant Y Seintiau Newydd y tymor hwn wrth i’r tîm o Groesoswallt dal eu gafael ar y bencampwriaeth a chodi tlws Cwpan Cymru JD.

Sgoriodd 27 gôl gynghrair, gan ddechrau dim ond 10 gêm i’r pencampwyr (19 fel eilydd) – 37 gôl ym mhob cystadleuaeth.

Jamie Mullan – Y Seintiau Newydd
Mae enillydd chwaraewr y tymor 2017/18 wedi cyrraedd y rhestr fer eto eleni gan gadw safonau uchel cyson i’r pencampwyr.

Mae’r chwaraewr canol cae dylanwadol wedi creu 16 gôl y tymor hwn – y nifer fwyaf gan chwaraewr o’r UGC gan sgorio 10 ei hun.

Michael Bakare – Cei Connah
Mewn tymor lle llwyddodd Cei Connah i orffen yn ail yn UGC, eu safle uchaf erioed, a chyrraedd dwy rownd derfynol, mae’r asgellwr Michael Bakare wedi serennu gan sgorio 17 gôl ym mhob cystadleuaeth – gan gynnwys gôl gofiadwy yn rownd derfynol Cwpan Her Irn Bru’r Alban.

Mae Bakare wedi cyfrannu at 24 gôl gynghrair y tymor hwn, gan sgorio 14 ei hun a chreu 10 i dîm Andy Morrison.

Aeron Edwards – Y Seintiau Newydd
Dros y blynyddoedd mae Aeron Edwards wedi bod yn un o brif chwaraewyr Y Seintiau Newydd, a’r tymor yma cafodd ei wobrwyo fel capten Cymru C.

Mae’r chwaraewr canol cae wedi ennill naw pencampwriaeth gyda’r Seintiau Newydd erbyn hyn – gan dorri record Gary Lloyd fel un o’r chwaraewr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o bencampwriaethau gyda’i gyd chwaraewyr yn Y Seintiau, Paul Harrison, Chris Marriott a Chris Seargeant.

Enillwyr blaenorol:
2017/18 – Jamie Mullan (Y Seintiau Newydd)
2016/17 – Jason Oswell (Y Drenewydd)
2015/16 – Marc Williams (Llandudno)
2014/15 – Chris Venables (Aberystwyth)
2013/14 – Chris Venables (Aberystwyth)
2012/13 – Michael Wilde (Y Seintiau Newydd)
2011/12 – Mark Jones (Y Bala)
2010/11 – Rhys Griffiths (Llanelli)

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn noson wobrwyo’r cynghrair yn Ewloe ar nos Sadwrn, 1 Mehefin.