5-yr-ŵyl

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros yr ŵyl.

Mike Lewis (Y Barri)
Roedd Mike Lewis yn un o chwaraewyr pwysicaf Y Barri dros yr ŵyl – chwaraeodd y ddwy gêm yn erbyn Met yn absenoldeb y dewis cyntaf George Ratcliffe, gan gadw llechen lân yng Nghampws Cyncoed wrth i’r Barri sicrhau safle yn y Chwech Uchaf.

Luke Bowen (Caerfyrddin)
Serennodd Luke Bowen i’r Hen Aur dros yr ŵyl – sgoriodd ddwy gôl ar Ddydd San Steffan wrth i Gaerfyrddin gipio dim ond eu hail fuddugoliaeth o’r tymor yn erbyn Pen-y-bont ar Barc Waun Dew. Yna, sgoriodd yn y funud olaf yn y gêm gyfatebol ar Ddydd Calan i sicrhau pwynt pwysig i Gaerfyrddin.

Chris Venables (Y Bala)
Dyw Chris Venables ddim yn medru stopio sgorio ar hyn o bryd! Prif sgoriwr y gynghrair yn ychwanegu tair gôl i’w gyfanswm yn erbyn Caernarfon dros yr ŵyl. Mae gan Venables 18 gôl mewn 19 gêm gynghrair y tymor hwn.

Jamie Insall (Cei Connah)
Chwaraeodd Jamie Insall ran bwysig ym muddugoliaethau Cei Connah yn erbyn Airbus UK dros yr ŵyl – sgoriodd cyfanswm o dair gôl dros y ddwy gêm wrth i Gei Connah gadw’r pwysau ar Y Seintiau Newydd ger y brig. Jamie Insall yw prif sgoriwr Cei Connah gyda 12 gôl yn y gynghrair.

Greg Draper (Y Seintiau Newydd)
Roedd Greg Draper ar dân dros yr ŵyl – sgoriodd hatric yn erbyn Derwyddon Cefn ar Ddydd San Steffan cyn sgorio ei 150fed i’r Seintiau yn UGC yn y gêm gyfatebol. Mae Draper wedi sgorio 17 gôl y tymor hwn, dim ond un gôl yn llai na prif sgoriwr y gynghrair Chris Venables.
Ar gyfartaledd, mae Greg Draper wedi sgorio gôl bob 54 munud yn UGC y tymor hwn!