Ross County yn cipio Cwpan Her Irn-Bru

Sion Richards

Sion Richards

Saturday, 23 Mar 2019, 20:57

Ross County yn sgorio deirgwaith o fewn 15 munud yn y munudau olaf i gipio tlws Cwpan Her Irn Bru am y trydydd tro yn ei hanes.

Y Nomadiaid yn dechrau yn gryf gyda MIchael Bakare yn taro ergyd wych i gefn y rhwyd ar ôl 20 munud. Cafodd Michael Wilde gyfle da i’w rhoi ymhellach ar y blaen yn ogystal âg Andy Owens.

Cei Connah ar y blaen o 1-0 ar yr egwyl.

Daeth y goliau i’r tîm sydd ar frig pencampwriaeth yr Alban i gyd o fewn y chwarter awr olaf – dwy gôl gan yr eilydd Josh Mullin a troed-dde Jamie Lindsay yn selio’r fuddugoliaeth i fechgyn Steve Ferguson a Stuart Kettlewell.

Roedd hi’n ymdrech arwrol gan fechgyn Andy Morrison – y tîm cyntaf o du allan yr Alban i gyrraedd y rownd derfynol er gwaethaf y sgôr terfynol.