13 Chwefror

Ar y diwrnod yma yn 2007 penderfynodd Stockport County ymestyn cyfnod benthyg ei golwr Cymreig … dim byd arbennig yn hynny medde chi.

Ond dyma oedd y cyfle roedd golwr ifanc Wolverhampton Wanderers, Wayne Hennessey, wedi bod yn disgwyl amdano.

Roedd Hennessey wedi arwyddo i Stockport ar fenthyg am gyfnod byr ym mis Ionawr 2007, ond ar ôl cadw chwe llechen lân mewn chwe gêm penderfynodd Stockport gadw Hennessey am gyfnod hirach.

A dyna chi benderfyniad!

Llwyddodd Hennessey i dorri record 119 mlwydd oed y gynghrair bêl-droed drwy gadw naw llechen lân yn olynol i Stockport a llwyddodd yr Hatters i ennill pob un o’r gemau hynny.

Mae Hennessey hefyd yn dal y record clwb Stockport am yr amser hiraf heb ildio gôl – 857 munud!

Galwyd Hennessey yn ôl i Wolves yn Ebrill 2007 a mis yn ddiweddarach enillodd ei gap cyntaf i Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Seland Newydd ar Y Cae Ras.

Ers hynny mae Hennessey, sy’n hanu o Ynys Môn, wedi chwarae’n gyson i dîm cyntaf Mick McCarthy yn y Bencampwriaeth ac Uwch Gynghrair Lloegr yn ogystal ag ennill 30 cap dros Gymru.

Gyda llaw, Wayne Hennessey, yw’r trydydd gŵr o Ynys Môn i ennill ca dros Gymru … ac mae’r tri ohonnyn nhw wedi bod yn golwyr! Dyna chi ffaith!