

10 Mawrth 2026
Mae S4C wedi cyhoeddi ei ymateb i ymgynghoriad Adolygiad Siarter y BBC, gan alw am ddiogelu ei safle unigryw o fewn tirwedd cyfryngau'r DU er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor y cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg.

17 Chwefror 2026
Mae rhestr fer caneuon Cân i Gymru 2026 wedi cael ei chyhoeddi.
Bydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn ôl i gyflwyno'r gystadleuaeth a fydd, am y tro cyntaf ers dros ddeng mlynedd, yn cael ei chynnal yn fyw o Faes Sioe Môn ar nos Sadwrn 28 Chwefror 2026.

6 Chwefror 2026
Mae S4C wedi cadarnhau y bydd gemau tîm Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Dan 20 ar gael i’w ffrydio’n fyw ar YouTube am y tro cyntaf erioed, yn ogystal â’r darllediadau arferol ar deledu ac yn ddigidol ar S4C Clic a BBC iPlayer.

2 Chwefror 2026
Mae Colleen Ramsey ac Owain Wyn Evans wedi cychwyn ar antur Eidalaidd wrth iddynt gael blas ar fwyd, ffasiwn a phensaernïaeth wych y wlad.
Mae eu cyfres newydd, Ciao! Colleen ag Owain, i’w gweld ar S4C o 2 Chwefror, gyda'r holl raglenni ar gael i'w gweld ar S4C Clic a BBC iPlayer.

12 Ionawr 2026
Ym mhennod nesaf Y Cyfweliad ar S4C, mae'r gantores a'r cyflwynydd Bronwen Lewis, sydd hefyd yn un o Hyfforddwyr Y Llais ar S4C, yn siarad o’r galon am ddiagnosis cancr ei brawd bach a sut mae'r profiad wedi dangos iddi hi a'i theulu beth sy'n bwysig.

30 Rhagfyr 2025
Ar 30 Rhagfyr, mae S4C yn gwahodd gwylwyr i ailymweld ag un o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf rhyfeddol erioed i ddechrau ar dir Cymru – o strydoedd gogledd Caerdydd i fyny at gopa’r Alpe d'Huez yn Ffrainc – mewn rhaglen ddogfen newydd, Geraint Thomas: Y Daith.

22 Rhagfyr 2025
Ym mhennod cyntaf Y Cyfweliad ar S4C, mae Dafydd Iwan dan deimlad wedi i un o'r Holwyr ofyn iddo sut y byddai o'n hoffi gael ei gofio, gan ddweud "fel rhywun drïodd wneud gwahaniaeth er gwell" cyn cael ei sicrhau ei fod o wedi gwneud hynny'n barod.

2 Rhagfyr 2025
S4C yw’r lle i fod i blant fwynhau ac ymlacio y Nadolig hwn. Bydd y teulu cyfan yn gallu mwynhau animeiddiadau gwreiddiol ar S4C. Bydd premiere stori am garw unigryw, Nolig, a stori wreiddiol am ferch fach ddewr mewn coedwig yn Ysbryd yr Oerfel; bydd clasuron Nadolig Deian a Loli a phenodau arbennig o gartwnau poblogaidd fel Blŵi, Shrek a Madagascar – bydd y plant wrth eu boddau.

1 Rhagfyr 2025
Bydd S4C yn gweini bwydlen o raglenni arbennig sy’n addo adloniant o’r radd flaenaf dros y Nadolig. O’r cogydd amryddawn Bryn Williams yn creu gwledd Nadoligaidd o’i gartref, drama flasus gyda’r ail gyfres o Dal y Mellt, sgyrsiau at bob dant ar Y Cyfweliad, a cherddoriaeth felys yn y ffilm ddogfen arobryn, Y Crwydryn. Mae rhywbeth i bawb i’w fwynhau yn ystod hwyl yr Ŵyl ar S4C.