S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Taith Dafydd - Llyn Padarn a Chastell Dolbadarn

Manylion:

  • Cyfeirnod Grid Dechrau: SH 560 623
  • Cyfeirnod Grid y Diwedd: SH 586 598
  • Hyd y daith: 1 awr 15 munud
  • Pellter: 2.8m / 4.5KM
  • Parcio: Os ydych am ddechrau'r daith ar y trên, y lle gorau i barcio yw ger diwedd y daith, Maes Parcio Parc Gwledig Padarn, Caernarfon LL55 4TY. Does yna ddim maes parcio addas ar ddechrau'r daith. Os nad ydych am fynd ar y trên, byddwn yn awgrymu i gwrdd yn y maes parcio ar ddiwedd y daith, a mynd â un car i'r dechrau a pharcio ar ymyl yr hewl mewn lle diogel.

Disgrifiad:

Os ydych am fynd ar Rheilffordd Llyn Padarn (a), yr orsaf agosaf at y maes parcio yw gorsaf Llanberis. Bydd y trên yn teithio gwrthglocwedd o gwmpas Llyn Padarn, a byddwch yn dod o'r trên ym Mhenllyn, pwynt mwyaf gogleddol Llyn Padarn. Dyma lle fyddwch yn dechrau'r daith gerdded.

Dechreuwch y daith wrth groesi'r bont ar draws Afon Rhythallt, ac yna trowch i'r chwith a cherddwch lawr yr heol sydd wedi ei gau I draffig heibio I Graig Yr Undeb ar y dde. Byddwch yn dod allan ar yr A4086, croeswch yr heol gan wedyn ddilyn y llwybr cyhoeddus trw'r twnel.

Ar ddiwedd y llwybr byddwch yn cyrraedd Cyflesterau Cyhoeddus yna trowch i'r chwith a cherddwch at ben pella'r maes parcio. Cerddwch trwy gwpwl o goed a wnewch chi gyrraedd glan, dyma lle welwch y Goeden Unig (b).

Parhewch i gerdded gyda'r llyn ar eich ochor chwith, heibio Llafn y Cewri (c) ac at waelod y llyn. Cadwch yr Afon Bala ar eich ochor chwith, ewch heibio'r bont ac o dan y rheilffordd. Parhewch i ddilyn y llwybr, ewch drwy'r maes parcio ac i fyny at Gastell Dolbadarn (ch).

Pwyntiau o Ddiddordeb:

A) Rheilffordd Llyn Padarn

Mae Rheilffordd Llyn Padarn yn 2 filltir a hanner o hyd ac mae'r cerbydau'n cael eu tynnu gan ddau o hen drenau Chwarel Dinorwig

B) Y Goeden Unig

Cyfeirnod Grid: SH 574 609

Gall ddadlau mai hon yw'r goeden sy'n ymddangos ar y mwyaf o luniau yng Nghymru gyfan. Mae'n le poblogaidd ymysg ffotograffwyr, gyda golygfeydd sy'n ymestyn o Gwm Idwal i'r Wyddfa.

C) Llafn y Cewri

Cyfeirnod Grid: SH 577 605

Nod y cerflun eiconig 20 troedfedd yma yw codi ymwybyddiaeth o hanes Tywysogion Gwynedd, a'u cyfraniad at dreftadaeth Gymreig yr ardal.

Ch) Castell Dolbadarn

Cyfeirnod Grid: SH 586 598

Adeiladwyd Castell Dolbadarn gan Llywelyn Fawr tua 1225. Gorchfygwyd gan Edward 1af yn 1284 a chipiwyd llawer o'r pren er mwyn adeiladu Castell Caernarfon.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?