S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Taith Jodie - Talgarth

Hyd: 2 awr

Pellter: 4 milltir / 6.4 km

Dechrau: SO 184 339

Diwedd: SO 169 326

Parcio: Does yna ddim maes parcio ger dechrau'r daith, ond gallwch ddod o hyd i lefydd parcio ar ochr yr heol yn Llanelieu. Mae yna faes parcio swyddogol ger diwedd y daith, Gwarchodfa Natur Pwll y Wrach, Heol yr Ysbyty, Talgarth LD3 0DT, neu, yn Nhalgarth ei hun, LD3 0PG.

Disgrifiad:

Mae'r daith yma'n cychwyn ym mhentre' Llanelieu. Yng nghanol y pentre', ger ochr yr heol, fe welwch y goeden chwipio (A). Gan gadw'r goeden ar eich dde, cerddwch ymlaen ac fe ddewch ar draws Eglwys Santes Ellyw (B) tu ôl i goedwig ar y dde. Ar ôl ymweld â'r eglwys, parhewch i gerdded yn yr un cyfeiriad ar yr heol allan o Lanelieu.

Pan gyrhaeddwch groesffordd, trowch i'r chwith, a dilynwch yr heol drwy fferm Ffostyll, heibio'r bythynnod ar y dde a'r holl ffordd i'r fferm nesaf. Cyn cyrraedd adeiladau allanol y fferm, trowch yn siarp i'r dde ac fe welwch arwydd llwybr cyhoeddus. Dilynwch y llwybr am 400 medr, a throwch i'r chwith wrth gyrraedd yr uchafbwynt, cyn cyrraedd y goedwig.

Dilynwch y llwybr ar hyd y top, trwy Goedwig y Parc ac yna parhewch i ddilyn y llwybr i lawr i Heol yr Eglwys, Talgarth.

Parhewch i gerdded yn yr un cyfeiriad, a phan welwch yr eglwys ar y dde, trowch lawr i'r chwith at ganol y pentre'. Pan fyddwch yn cyrraedd sgwâr y pentre', trowch i'r chwith ac yna bron yn syth i'r chwith eto i fynd at Felin Talgarth (C).

Pan dewch allan o'r felin, trowch i'r chwith a chroeswch y bont ar draws yr Afon Ennig, ac yna cymerwch y chwith cyntaf lawr Stryd Bell.

Cadwch i'r chwith wrth gyrraedd y fforch yn y ffordd, a pharhewch i gerdded am dipyn o dan 1 cilomedr, heibio hen Ysbyty Talgarth, a dewch at droad Gwarchodfa Natur Pwll y Wrach (Ch) ar ochor dde'r heol. Ewch fewn i'r warchodfa, a dilynwch y llwybr yr holl ffordd i'r rhaeadr, sydd ochor fwyaf dwyreiniol y warchodfa. Dyma ddiwedd y daith.

Pwyntiau o Ddiddordeb:

  • a) Y Goeden Chwipio
  • Cyfeirnod Grid: SO 185 341
  • Cafodd y goeden Ywen yma ei blannu gyda'r Eglwys gerllaw, ac yn ôl y son fe'i defnyddiwyd fel postyn chwipio. Mae yna ddau dwll yn y goeden i dderbyn breichiau'r person oedd yn derbyn y chwip.
  • b) Eglwys Santes Ellyw
  • Cyfeirnod Grid: SO 184 341
  • Dywed mai wyres Brychan Brycheiniog oedd Santes Ellyw. Mae'r eglwys bellach yn wag, ac o dan ofal yr elusen 'Friends of Friendless Churches'.
  • c) Melin Talgarth Cyfeirnod Grid: SO 154 337
  • Dyma'r unig felin sy'n cael ei bweru gan ddŵr yn Manau Brycheiniog. Y dŵr sy'n pweru'r felin yw'r Afon Ellyw, sy'n tarddu yng nghanol y Mynyddoedd Duon.
  • Ch) Gwarchodfa Pwll y Wrach
  • Cyfeirnod Grid: SO 162 327
  • 17.5 hectar o goetir hynafol, sy'n rhedeg lawr at lannau'r Afon Enig. Ar ochr ddwyreiniol y warchodfa, mae'r afon yn plymio dros raeadr i mewn i bwll tywyll o'r enw Pwll y Wrach.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?