S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Taith Lewis - Merthyr Tudful

Hyd: 1 awr a hanner

Pellter: 2.5 milltir / 4 km

Cyfeirnodau grid

Dechrau: SO 041 072

Diwedd: SO 049 095

Parcio: Parc Cyfarthfa, Brecon Rd, Merthyr Tydfil CF47 8RE

Mae'r daith yn un syth, felly bydd angen gadael y car ar ddiwedd y daith er mwyn cyrraedd nôl, neu allwch gerdded nôl. Y maes parcio ger ddiwedd y daith yw, Gwarchodfa Natur Taf Fechan, Vaynor, Merthyr Tydfil CF48 2LA.

Disgrifiad:

Mae'r daith yn dechrau tu allan i Gastell Cyfarthfa (A). Gyda'r castell o'ch blaen, trowch i'r chwith a cherddwch tuag at y llyn. Cadwch y llyn ar y chwith, gan barhau i gerdded ar y llwybr. Pan fyddwch yn cyrraedd y gatiau, ewch allan o dir y castell, a trowch i'r chwith. Croeswch ar y groesfan a dilynwch y llwybr sydd yn syth o'ch blaen a byddwch yn mynd drwy borth bwa. Dyma yw dechrau Ffrwd Cyfarthfa (B).

Parhewch i gerdded ar y llwybr gyda'r ffrwd ar y dde, ac ar ôl tua 300 metr, cadwch i'r chwith a dilynwch y llwybr ar hyd yr afon Tâf Fechan.

Dilynwch y llwybr o dan y brif heol, dyma Warchodfa Natur Tâf Fechan (C). Byddwch yn dilyn y llwybr yma am tua 2 cilomedr cyn mynd trwy gât a dod allan yn y maes parcio. Ewch drwy'r maes parcio, ar draws yr heol ac fe welwch gât o'ch blaen. Ewch drwy'r gât a dilynwch y llwybr cul i Gastell Morlais (Ch) lle fydd diwedd y daith.

Pwyntiau o Ddiddordeb:

a) Castell Cyfarthfa

Cyfeirnod Grid: SO 041 072

Cafodd ei gomisiynu a'i adeiladu ym 1824-25 ar gyfer y meistr haearn, William Crawshay II, un o'r dynion mwyaf dylanwadol yng Nghymru ar y pryd. Mae'r castell ar agor i'r cyhoedd drwy'r flwyddyn fel Amgueddfa ac Oriel Gelf.

b) Ffrwd Cyfarthfa

Cyfeirnod Grid: SO 037 076

Pwrpas y Ffrwd oedd i gludo dŵr o'r Tâf Fechan i'r gweithiau haearn. Adeiladwyd yr hen Dramffordd gerllaw'r ffrwd i gludo calchfaen ar dramiau o Chwarel Gurnod i weithfeydd Haearn Cyfarthfa.

c) Gwarchodfa Natur Taf Fechan

Cyfeirnod Grid: SO 033 081

Mae'r warchodfa natur yn ymestyn am 2.5km ac yn geunant o galchfaen goediog lle mae Afon Tâf Fechan yn rhedeg.

ch) Castell Morlais

Cyfeirnod Grid: SO 049 095

Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol tua 1270 gan Iarll Caerloyw ac Arglwydd Morgannwg, Gilbert de Clare. Serch hynny roedd Humphrey de Bohun yn hawlio'r tir ond daeth y ffrae i ben ym Mrwydr Maesvaynor, ym 1291.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?