S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Taith John - Rhydyfelin i Aberystwyth

Hyd: 1 awr 10 munud

Pellter: 2.8 milltir / 4.5km

Dechrau: SN 589 787

Diwedd: SN 584 827

Parcio: Does yna ddim maes parcio swyddogol ger ddechrau'r daith, ond mae yna ddigon o lefydd sâff i barcio o gwmpas Rhydyfelin. Y côd-post agosaf i'r dechrau yw SY23 4PY. Mae yna ddigon o lefydd i barcio ger diwedd y daith yn Aberystwyth.

Disgrifiad:

Mae'r daith yma'n un syth, gallwch adael car ar ddiwedd y daith neu gerdded nôl i'r dechrau. Mae'n dechrau ar y bont sydd yn croesi'r Afon Ystwyth yn Rhydyfelin, i ffeindio'r pwynt yma dilynwch y côd post uchod. Croeswch y bont a dilynwch yr heol o gwmpas i'r chwith cyn troi i'r dde ar y troad cyntaf. Dilynwch yr heol yr holl ffordd o gwmpas waelod Castell Tan-y-Castell (A), parhewch yn syth tuag at yr arfordir, cyn cyrraedd Tan y Bwlch, dilynwch y llwybr islaw ar draws y caeau.

Byddwch yn cyrraedd Traeth Tan y Bwlch, trowch i'r dde a dilynwch y traeth am ychydig dros 1 cilometr. Wrth gyrraedd ddiwedd y traeth, trowch i'r dde a dilynwch y llwybr arfordir gyda'r afon Rheidiol ar eich chwith. Byddwch yn cyrraedd Pont Trefechan (B), croeswch y bont a throwch i'r chwith i fynd nôl lawr at yr arfordir. Parhewch i ddilyn llwybr yr arfordir, ac ar ôl tua 300 medr, ewch i fyny i'r dde at Gastell Aberystwyth (C). O Gastell Aberystwyth, cerddwch nôl lawr i'r arfordir, a pharhewch i gerdded ar hyd y promenâd (Ch).

Wrth gyrraedd pen y promenâd, gallwch naill a'i gerdded lan Craig y Glais (D), neu, fel y cerddwyr yn y rhaglen, mynd ar y rheilffordd.

Pwyntiau o Ddiddordeb:

a) Castell Tan-y-Castell

Cyfeirnod Grid: SN 585 790

Dyma oedd Castell gwreiddiol Aberystwyth a godwyd gan Farwn Normanaidd ym 1110 er mwyn trechu'r Cymru. Daeth Llywelyn Fawr i'r ardal a dymchwel y castell.

b) Bont Trefechan

Cyfeirnod Grid: SN 583 813

Yn Chwefror 1963, fe wnaeth myfyrwyr gynnal protest hanesyddol ar y bont gan atal y traffig. Dyma oedd y protest cyntaf a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith.

c) Castell Aberystwyth

Cyfeirnod Grid: SN 579 815

Cafodd Castell Aberystwyth ei adeiladu, ynghyd â Chastell Fflint, Castell Ruddlan a Chastell Llanfair ym Muallt, gan y Brenin Edward I fel rhan o'i ymgyrch yn erbyn Cymru.

Ch) Promenâd

Cyfeirnod Grid: SN 583 820

Dyma un o'r promenâdau hiraf ym Mhrydain. Roedd yna hen draddodiad yn yr amser Fictoriaidd i'r dynion a'r menywod oedd yn cerdded ar hyd y prom er mwyn cicio'r bar ar ben gogleddol y prom.

d) Craig y Glais

Cyfeirnod Grid: SN 584 827

Ers 1896, mae'r rheilffordd wedi esgyn i gopa'r graig lle gellir ymweld â'r camera arbennig sy'n cynnwys lens 14 modfedd a modd gweld golygfeydd sy'n ymestyn hyd at Eryri a Gogledd Sir Benfro.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?