S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Taith Lauren - Penllergaer

Hyd: 1 awr 10 munud

Pellter: 2.5 milltir / 4 cilometr

Dechrau: SS 622 990

Diwedd: SS 624 989

Parcio: Penllergare Valley Woods, Penllergaer, SA4 9GS

Disgrifiad:

Mae'r daith yn dechrau ger yr Arsyllfa (A). I fynd yna o'r maes parcio, ewch allan o dir y goedwig, trowch i'r chwith mewn i stâd o dai ac fe welwch yr arsyllfa o'ch blaen. O fan hyn trowch i'r chwith a cherddwch lawr y llwybr nôl at y goedwig.

Pan gyrhaeddwch y llwybr, trowch i'r dde a dilynwch y llwybr heibio adfeilion y Gerddi Muriog (B), a chadwch i'r dde. Parhewch i gerdded am tua 700 metr ac fe ddewch i groesffordd. Ewch yn syth ar draws a byddwch yn cyrraedd y llyn isaf (C).

Dilynwch y llwybr o gwmpas y llyn, gan ei gadw ar eich chwith, a'r Afon Llan ar eich dde am tua 1 cilometr. Cyn cyrraedd y llyn uchaf, trowch i'r dde a chroeswch Bont Llewelyn (Ch). Ar ôl croesi'r bont, trowch i'r dde a chadwch i'r chwith a dringwch i'r top. Trowch i'r chwith a parhewch yn syth, gan ddilyn y llwybr wrth iddo droi i'r chwith ac ar draws y top.

Byddwch yn cyrraedd swyddfeydd y safle, trowch i'r chwith a cherddwch lawr ar draws yr afon ac yna dilynwch y llwybr lawr ochor orllewinol y llyn. Ar waelod y llyn, byddwch yn cyrraedd y rhaeadr (D), dyma derfyn y daith.

Pwyntiau o Ddiddordeb:

a) Arsyllfa

Cyfeirnod Grid: SS 622 990

Adeiladwyd gan John Dillwyn ym 1846 fel rhodd i'w ferch ar ei phenblwydd yn 16. O'r arsyllfa yma, tynnwyd un o luniau cyntaf o'r lleuad.

b) Gerddi Muriog

Cyfeirnod Grid: SS 624 988

Gallwch weld adfeilion y gerddi muriog oedd yn rhan o'r ystad oedd yma. Mae yna gynlluniau i adfer y gerddi yn y dyfodol agos.

c) Llyn Isaf

Cyfeirnod Grid: SS 625 979

Dyma un o ddau lyn crëwyd gan John Dilwyn trwy ddamnio'r Afon Llan. Fe welwyd llygoden y dŵr a dyfrgi yma'n ddiweddar.

Ch) Bont Llewelyn

Cyfeirnod Grid: SS 625 988

Cafodd y bont gerrig yma ei adnewyddu yn 2013 gan ddefnyddio arddulliau traddodiadol.

d) Rhaeadr

Cyfeirnod Grid: SS 624 989

Dyma'r unig raeadr yn Abertawe. Mae yna hydro-dyrbin wedi ei wedi'i osod tu ôl i'r rhaeadr er mwyn creu atynfa.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?