S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Taith Ceryn - Twyni Tywod Merthyr Mawr

Manylion:

Hyd: 1 awr a hanner

Pellter: 4.3 milltir / 7 cilometr

Dechrau: SS 881 769

Diwedd: SS 869 770

Parcio: Y lle gorau i barcio yw ger ddiwedd y daith, sy'n agos iawn at ddechrau'r daith. Mae'r maes parcio ar ddiwedd Merthyrmawr Road, Bridgend, CF32 0LS, ger Castell Candleston.

Disgrifiad:

Er mwyn cyrraedd dechrau'r daith, y Castell (A), o'r maes parcio, cerddwch nôl tuag at y pentre' a chymerwch y dde cyntaf ar draws y bont. Cerddwch tuag at y Castell ar draws y cerrig camu.

Byddwch nawr ar ddechrau'r daith, Castell Ogwr (A). O fan hyn, ewch nôl ar draws y cerrig camu, ac ar draws y bont at bentref Merthyr Mawr (B). Trowch i'r chwith a dilynwch yr heol o gwmpas i'r dde. Cyn i'r heol troi i'r chwith, trowch i'r chwith i fynd at y llwybr drwy'r goedwig a pharhewch am tua chilometr gan gadw i'r dde ar bob cyffordd.

Fe fyddwch yn cyrraedd y maes parcio, trowch i'r dde a cherddwch drwy'r maes parcio. Ar ôl mynd heibio mynedfa'r ceir i'r maes parcio, cymerwch y dde gyntaf a dilynwch y llwybr i Gastell Candleston (C).

Cerddwch nôl ar eich hun tuag at y maes parcio a cherddwch syth drwyddo, a dilynwch y llwybr trwy'r twyni tywod tuag at y môr.

Ar ôl milltir o gerdded drwy'r twyni tywod, byddwch yn cyrraedd Traeth yr Afon (CH).

Gyda'r môr o'ch blaen, trowch i'r dde a cherddwch am tua hanner milltir, cyn troi tua'r mewndir ar draws fwy o dwyni tywod. Ar ôl 400 medr, trowch i'r dde a dilynwch y llwybr o gwmpas i'r dde nôl tuag at gyfeiriad y maes parcio. Wrth ddiwedd y llwybr yna, trowch i'r chwith a cherddwch tuag at y Twmpath Mawr (D). Dyma ddiwedd y daith.

Mae'n hawdd cyrraedd y maes parcio, torrwch trwy'r goedwig am ychydig dros 200 medr a byddwch yn ei gyrraedd.

Pwyntiau o Ddiddordeb:

A) Castell Ogwr

Cyfeirnod Grid: SS 881 769

Mae Ogwr, ynghyd â Choety a'r Castellnewydd, yn rhan o driawd o gaerau a adeiladwyd i warchod Morgannwg rhag ymosodiadau o'r gorllewin a oedd ym meddiant y Cymry.

B) Pentre Merthyr Mawr

Cyfeirnod Grid: SS 884 774

Dyma un o'r bentrefi mwyaf trawiadol yng Nghymru, gyda bythynod unigryw to gwellt llawn cymeriad.

C) Castell Candleston

Cyfeirnod Grid: SS 870 772

Maenordy caerog oedd Castell Candleston a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg gan y teulu de Cantelupe.

CH) Traeth yr Afon

Cyfeirnod Grid: SS 859 762

Traeth sy'n ymestyn ar draws 3 cilometr, lle mae'r Afon Ogwr yn cyrraedd y môr.

D) Twmpath Mawr

Cyfeirnod Grid: SS 869 770

Dyma'r twyn tywod ail fwyaf yn Ewrop, sy'n cyrraedd 200 troedfedd o uchder

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?