S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Taith Dan - Rhosili

Hyd: 1 awr 10 munud

Pellter: 2.4 milltir / 4 cilometr

Dechrau & Diwedd: SS 414 880

Parcio: Maes Parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Rhosili, Abertawe, SA3 1PR

Disgrifiad

Mae'r daith yma'n un gylch sydd yn dechrau yn Rhosili (A). Cerddwch tuag at y pentir ar y llwybr arfordir. Os edrychwch lawr i'ch dde, fe welwch draeth Bae Rhosili (B).

Parhewch i gerdded ar y llwybr arfordir, ac ar ôl tua cilometr, trowch i'r chwith a dilynwch y llwybr i'r Cae Blodyn yr Haul (C). Ar ôl cerdded o gwmpas y cae, cerddwch allan yr ochor arall a byddwch yn dod allan a'r lwybr yr arfordir, ar ochor deheuol y pentir.

Trowch i'r dde a cherddwch ar y llwybr arfordir o gwmpas y pentir, ac at Pwynt Rhosili. O fan hyn, byddwch yn gallu gweld Pen Pyrod (Ch) allan yn y môr. Parhewch i gerdded o gwmpas ar y llwybr arfordir a byddwch yn dychwelyd i'r maes parcio.

Pwyntiau o Ddiddordeb

A) Rhosili

Cyfeirnod Grid: SS 415 880

Pentref a chymuned yw Rhosili. Mae'n debyg fod Rhosili'n cael ei enw o'r gair rhos, ac mae'n bosib fod yr ail elfen yn yr enw'n gyfeirnod i Saint Sulien neu St. Sili, ond mae'r manylion yn aneglur.

B) Traeth Bae Rhosili

Cyfeirnod Grid: SS 411 882

Bae Rhossili yw'r traeth cyntaf i ennill Traeth Gorau Prydain gan TripAdvisor's Travellers 'Choice am yr ail flwyddyn yn olynol. Dyma un o draethau hiraf y Gŵyr, sy'n dri milltir o hyd.

C) Cae Blodau'r Haul /

Cyfeirnod Grid: SS 409 875

Darn o dir ffarm sy'n ymestyn 8 erw o dir sydd llawn blodau'r haul yn ystod yr Haf. Mae'n costio £2 yr un i fynd fewn i'r cae.

CH) Pen Pyrod

Cyfeirnod Grid: SS 395 874

Pentir yw Pen Pyrod, sef y pwynt mwyaf gorllewinol ar Benrhyn Gŵyr. Yn adnabyddus fel 'Worm's Head', mae'r enw yn deillio o'r gair Norseg, 'Wurme', sy'n golygu draig neu sarff.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?