S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Taith Mari

Hyd: 1 awr 20 munud

Pellter: 4.5 cilometr

Dechrau: SM 894 384

Diwedd: SM 894 412

Parcio: Mae yna le i parcio ger ochor yr heol ar ddechrau'r daith, 200 medr cyn cyrraedd y cyfeiriad yma: Castell Mawr, Trefasser, Goodwick SA64 0LR. Mae yna faes parcio ger ddiwedd y daith: Strumble Head, Goodwick SA64 0JL

Disgrifiad:

Mae'r daith yma'n un syth, gallwch gerdded nôl i'r dechrau neu adael car ar ddiwedd y daith i fynd a chi nôl. Byddwch yn dilyn y llwybr arfordir ar hyd yr holl daith.

O'r man parcio sydd ger dechrau'r daith, trowch i'r chwith a cherddwch am ychydig o dan 200 medr ar yr heol. Ar y chwith, ar ochr yr heol, fe welwch Gofeb Dewi Emrys (A). Ar ôl ymweld â'r gofeb, cerddwch nôl tuag at y man parcio a cherddwch heibio. Parhewch i gerdded am tua 200 medr arall, ac fe welwch arwydd ar y chwith i hostel ieuenctid ac ar gyfer y llwybr droed. Ar ôl cerdded lawr y lôn am tua 100 medr, dilynwch yr arwyddion llwybr droed i'r dde a cherddwch ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro (B). Dilynwch y llwybr sydd wedi ei marcio'n amlwg, a drwy unrhyw gatiau gyda'r eicon fesen arno, gan sicrhau eich bod yn cau'r gatiau ar eich ôl.

Ar ôl cerdded am dros 2 cilometr ar yr un llwybr, byddwch yn cyrraedd Pwll Arian (C) lawr ar y chwith.

Cerddwch am 1.2 cilometr arall, yn yr un cyfeiriad, wrth fynd heibio Carn Melyn, Pwll Ffyliaid a Bae Carreg Onnen. Byddwch wedyn yn cyrraedd diwedd y daith, yn edrych allan at Ynys Meicel lle gellir weld Goleudy Pen-Caer (Ch). Gallwch gerdded yr un ffordd nôl i'r dechrau, neu theithio ar yr heol.

Pwyntiau o Ddiddordeb:

a) Cofeb Dewi Emrys

Cyfeirnod Grid: SM 893 384

Dewi Emrys oedd un o feirdd enwoca' Cymru. Enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol pedair gwaith, a'r goron unwaith. Mae'r gofeb yma'n cynnwys y linell ganlynol o'i gerdd Pwll Deri, "A thina'r meddilie sy'n dwad ichi pan foch chi'n ishte uwchben Pwllderi".

b) Llwybr Arfordir Sir Benfro

Cyfeirnod Grid: SM 891 388

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro'n troi a throelli am 186 milltir ar hyd yr arfordir mwyaf syfrdanol ym Mhrydain. Mae'r llwybr hon bron yn llwyr o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – unig wir Barc Cenedlaethol arfordirol Prydain. Honnir bod y 35,000 troedfedd o esgyn a disgyn yn gyfystyr â dringo Everest – ond gellir ei fwynhau mewn darnau byrrach,

c) Pwll Arian

Cyfeirnod Grid: SM 885 403

Yn ôl y chwedl, fe wnaeth bachgen dlawd o'r ardal ddarganfon trysor yn y pwll yma wnaeth ddod o longddrilliad. Wrth edrych ar ddyddiad y stori, credir ei fod yn cyd-fynd â'r Armada Sbaeneg. O'r stori yma cafodd y bae yma ei enw.

Ch) Goleudy Pen Caer

Cyfeirnod Grid: SM 885 403

Cafodd Goleudy Pen Caer ei godi ym 1908, a'n un o'r goleudai cafodd ei adeiladu olaf ym Mhrydain. Mae'r goleudy wedi ei awtomeiddio nawr, a does 'na ddim mynediad i'r ynys i'r cyhoedd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?