S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Taith Bleddyn

Hyd: 40 munud

Pellter: 1.2 cilometr

Dechrau: SH 650 603

Diwedd: SH 655 594

Parcio: Maes Parcio Ogwen, Bethesda, Bangor LL57 3LZ

Disgrifiad:

Er mae'r daith yn edrych yn fyr, mae'n heriol ac yn serth mewn mannau. Gallwch gerdded yr un ffordd nôl i'r maes parcio.

Mae'r daith yn dechrau o faes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dewch allan o'r maes parcio, a throwch i'r dde, cerddwch am 200 metr ac fe gyrhaeddwch Bwynt Golygfa Nant Ffrancon (A) i'r Gogledd.

O fan hyn, cerddwch nôl heibio'r maes parcio, a chyn cyrraedd y brif heol, ewch tuag at Ganolfan Ogwen, a fe welwch Wal Darwin (B) wrth flaen y ganolfan. Wrth edrych ar Ganolfan Ogwen, cerddwch lawr yr ochor chwith ac ymunwch â'r llwybr droed. Cerddwch am tua 200 medr, ar draws yr afon, ac fe welwch Gylch Llechi ar y chwith (C). Parhewch i ddringo, ac ar ôl 200 medr arall, bydd y prif lwybr yn troi i'r dde tuag at Gwm Idwal, trowch i'r chwith er mwyn dilyn y llwybr llai tuag at Llyn Bochlwyd (Ch). Parhewch i ddringo yn ofalus ar y llwybr serth am 800 medr, gan gadw Nant Bochlwyd ar eich chwith. Byddwch yn cyrraedd terfyn y daith, Llyn Bochlwyd (Ch). Gallwch ddilyn yr un llwybr nôl at y maes parcio.

Pwyntiau o Ddiddordeb:

a) Pwynt Golygfa Nant Ffrancon

Cyfeirnod Grid: SH 647 603

Mae Nant Ffrancon yn ddyffryn rhewlifol, sydd yn siâp 'U' amlwg. Dyma le mae'r dyffryn yn cychwyn, a gallwch weld y Glyderau uwchben yr ochor Orllewinol, a'r Carneddau uwchben yr ochor Ddwyreiniol o'r pwynt hwn.

b) Wal Darwin

Cyfeirnod Grid: SH 649 603

Mae'r Wal Darwin yn gofnod daearegol o daith Charles Darwin ar draws Eryri ym 1831. Aeth i fyny Nant Ffrancon i Ogwen, o gwmpas Cwm Idwal ac yna ymlaen i Ffestiniog heibio Capel Curig, ac yna ar draws y Rhinogydd at yr arfordir gan orffen yn Abermaw. Nid yw union fanylion ei daith gyfan ar gael, ond mae'r creigiau yn y Wal yn cynrychioli'r rhai a groesodd, aeth yn agos iddynt, ac mewn rhai achosion, rhai a archwiliodd.

c) Cerrig Ffenestr Llechi Ogwen

Cyfeirnod Grid: SH 650 602

Mae yna gyfanswm o chwech o Gerrig Ffenestr Llechi wedi'i osod ar ochor y llwybr mewn cylch, pob un yn edrych ar gopa mynyddoedd gwahanol sef Tryfan, Glyder Fach, Glyder Fawr, Foel Goch, Carnedd Y Filliast a Pen Yr Ole Wen.

Ch) Llyn Bochlwyd

Cyfeirnod Grid: SH 654 592

Yn ôl chwedl leol, dyma lle diancodd hen stag lwyd rhag heliwr, yn wyrthiol trwy neidio o uchder mawr i'r llyn a nofio i ddiogelwch wrth ddal ei bochau llwyd uwchben yr wyneb, er mwyn anadlu.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?