S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Anrhegion Melys Richard Holt

​Peli Cnau Cyll

Llond llaw o gnau cyll cyfan

Llond llaw o gnau cyll mân wedi eu rhostio

1 jar o Nutella

1 bocs o Special K

Llond llaw o siocled llaeth

Cynheswch y popty i wres o 180°C.

Rhostiwch y cnau cyll am 10 – 15 munud nes yn euraidd cyn tynnu'r croen. Yna, gadewch i oeri.

Llenwch fag peipio gyda'r nutella gan ffurfio peli bach ar hyd tun pobi wedi ei orchuddio gyda phapur pobi. Rhowch 1 cneuen wedi ei rostio ar bob pelen. Yna, peipiwch belen arall o'r nutella ar ben y gneuen. Rhowch yn y rhewgell am 30 munud nes yn galed.

Yn y cyfamser, toddwch y siocled mewn powlen dros ddŵr sy'n stemio. Ychwanegwch y cnau cyll man i'r siocled.

Mewn powlen ar wahân, malwch y grawnfwyd Special K.

Tynnwch y cnau cyll o'r rhewgell a'u rholio yn eich dwylo i ffurfio sffêr. Rholiwch yn y grawnfwyd mâl i'w gorchuddio. Gwnewch yr un peth i'r holl beli.

Unwaith i chi orchuddio bob pelen gyda'r grawnfwyd, trochwch yn y gymysgedd siocled a chnau cyll. Gadewch i oeri trwy eu gosod yn yr oergell.

Yna, ffurfiwch byramid gyda'r peli a mwynhewch!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?