S4C
Dewisiadau

Cynnwys


Ffansi Ffortiwn: Facebook

1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig sy'n 18 oed neu'n hŷn, ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan Tinopolis, Pawb Cyf neu S4C, eu teulu agosaf a chwmnïau eraill y mae ganddynt gyswllt uniongyrchol gyda'r gystadleuaeth hon.

2. Cynigir gwobrau ariannol o £500 neu £1000 yn ddibynnol ar lle mae'r olwyn yn glanio.

3. I gystadlu, rhaid i chi rhoi sylw ar post Facebook HENO S4C yn dweud £500 neu £1000.

4. Bydd y gystadleuaeth ar agor ar 12fed o Orffennaf am 12.00y.h. tan 15fed o Orffennaf am 12.00yh.

5. Yr amser cau yw 12:00yh ar 15fed o Orffennaf. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

6. Ni fydd angen prynu unrhyw beth i gystadlu.

7. Dim ond unwaith gallwch gystadlu gan mai dim ond un wobr sydd i ennill.

8. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed.

9. Dewisir yr enillydd ar hap o blith yr holl geisiadau cywir a dderbynir erbyn yr amser cau. Bydd penderfyniad Tinopolis ynghylch yr enillydd yn derfynol.

10. Hysbysir yr enillydd o'r swm enillwyd drwy Facebook Messenger ac ar y post. Os na atebir yr neges erbyn ddydd Sul 18fed o Orffennaf, yna mae gan Tinopolis yr hawl i wobrwy enillydd arall (ar hap) neu i ddefnyddio'r wobr ar gyfer defnydd hyrwyddo yn y dyfodol yn unol â'i ddisgresiwn.

11. Pa bynnag swm ariannol fydd yr olwyn yn glanio arni dyma'r swm ariannol fydd yn cael ei ennill gan y cystadleuydd.

12. Trwy gystadlu yn y gystadleuaeth, mae ymgeiswyr:

i. yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth y maent yn eu darparu yn gywir a'u bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ar gyfer y gystadleuaeth;

ii. yn cytuno i ymrwymo i'r amodau a thelerau hyn;

iii. yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall S4C ddefnyddio'u henw a'u llun at ddibenion hyrwyddo.

13. Mae Tinopolis ac S4C yn cadw'r hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd ac i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddynt sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.

14. Rhaid cyflwyno pob cais trwy gyfrwng y dull ymgeisio a nodir mewn deunydd hyrwyddo a negeseuon ynghylch y gystadleuaeth. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng unrhyw ddull arall.

15. Ni ellir cyfnewid neu drosglwyddo'r wobr. Bydd y swm a fydd yn ymddangos ar yr olwyn yn derfynol.

16. Ni fydd Tinopolis nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau.

17. Caiff y wobr ei ddanfon ar ffurf siec neu daliad banc i'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd wedi i'r enillydd gael ei hysbysu, neu trwy law aelod o staff Tinopolis. Bydd prawf postio/ddanfon gan Tinopolis yn cyfateb a phrawf eu bod wedi cyrraedd. Gall y taliad gymryd hyd at fis i gyrraedd.

18. Mae Tinopolis a/neu S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

19. Mae Tinopolis ac S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd, sy'n codi o'r ffaith ei fod ef, neu ei bod hi, wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu sy'n digwydd i'r enillydd o ganlyniad i'r ffaith eu bod wedi derbyn y wobr.

20. Ni fydd Tinopolis na S4C yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unryw drydydd parti arall nac yn defnyddio manylion personol ymgeiswyr at unrhyw bwrpas ar wahân i weinyddu'r gystadleuaeth hon a byddant yn dinistrio'r holl wybodaeth bersonol yn eu meddiant cyn gynted â phosib wedi i'r gystadleuaeth ddod i ben. Caiff eich data personol ei brosesu a'i storio yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998.

21. Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

22. Trefnir y gystadleuaeth hon gan, a'r hyrwyddwr yw Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C, 0870 600 4141.


Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?