S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Leah Edge

    calendar Dydd Gwener, 17 Rhagfyr 2021

  • Cacen gaws fegan

    Cynhwysion

    • 220g siocled tywyll (o leiaf 70%)
    • 1 carton o 'silken' tofu
    • 200g figs wedi sychu
    • 300g caws hufennog figan
    • 5-6 llwy fwrdd o surop agave
    • 2 llwy fwrdd o laeth e.e ceirch (heb gynnyrch llaeth)
    • 1/4 llwy de o halen môr
    • 125g cnau cyll
    • 125g o geirch
    • 2 llwy fwrdd o bowdwr cocoa
    • 50g siwgr caster
    • 75g menyn fegan
    • 220g siocled

    Dull

    1. Irwch dun cacen tua 20cm mewn diamedr a rhoi papur gwrthsaim ar ei waelod.
    2. Mesurwch 125g o gnau cyll, 125g o geirch a'u cymysgu mewn prosesydd bwyd.
    3. Ychwanegwch 50g o siwgr caster, 2 llwy fwrdd o bowdwr cocoa, 1/4 llwy de o halen a'u cymysgu unwaith eto.
    4. Ychwanegwch 75g o fenyn fegan a'i gymysgu nes bod popeth yn dod at eu gilydd. Os ydi'r gymysgedd wedi dod at ei gilydd yn iawn, arllwyswch i mewn i'ch tun pobi.
    5. Gwnewch yn siŵr fod y gymysgedd wedi ei lefelu a'i wasgu i waelod y tun yna rhowch yn yr oergell.
    6. Rhowch 220g o siocled mewn powlen dros ddŵr sy'n mudferwi. Trowch bob hyn a hyn nes ei fod wedi toddi yn gyfan gwbl.
    7. Rhowch 1 baced o tofu mewn bag cnau a'i orchuddio mewn tywel golchi llestri neu mwslin. Gwasgwch y tofu i gael gwared â'r hylif. Yna, ychwanegwch i'r prosesydd bwyd gyda 300g o gaws hufennog fegan.
    8. Cymysgwch nes ei fod yn esmwyth cyn ychwanegu 5 llwy fwrdd o surop, 1/4 llwy de o halen a 2 llwy fwrdd o laeth a'i gymysgu eto. Ychwanegwch y figs a chymysgu.
    9. Unwaith i'r siocled oeri am ychydig funudau, arllwyswch yn araf tra bod y prosesydd bwyd ymlaen. Mi ddylai'r gymysgedd fod yn drwchus erbyn rŵan.
    10. Arllwyswch y gymysgedd yma dros y darn gwaelod a'i adael yn yr oergell am o leiaf 3 awr.
    11. Gadewch yn yr oergell a'i fwyta o fewn 3 diwrnod.

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Richard Holt: Yr Academi Felys.

    Rysáit gan Leah Edge.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?