S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Log siocled gwirod

Cynhwysion

  • 175g menyn neu fargarin
  • 150g siwgr castir
  • 3 ŵy
  • 150g blawd codi
  • 25g powdwr coco
  • 50ml gwirod hufen (liqueur)

Hufen menyn:

  • 150g menyn
  • 175g siwgr eisin
  • 1 llwy de fanila
  • 30-50ml gwirod hufen

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 190°c / 170 ffan / Nwy 5 a seimiwch tin siap log.
  2. Cymysgwch y menyn a siwgr mân nes mae'n wlanog ac yna ychwanegu y ŵyau tamed ar y tro.
  3. Hidlwch y blawd a coco at ei gilydd a plygwch mewn i'r cymysg ŵyau.
  4. Plygwch y gwirod a llwy mewn i'r tin.
  5. Pobwch yn y ffwrn tan mae'n codi a coginio trwyddo am tua 35 i 40 munud. Gadwch yn y tin am 10 munud cyn troi drosodd arno i ffultuth oeri.
  6. Yn y cyfamser gwnewch yr hufen menyn gan gymysgu'r menyn a'r rhinflas fanilla tan yn mae'n ysgafn. Yna ychwanegwch yr eisin siwgr a'r gwirod.
  7. Torrwch y log mewn hanner a llenwch gyda ychydig o'r hufen menyn cyn ail-gysylltu'r dau rhan. Defnyddiwch gweddill y hufen menyn i gorchuddio'r log.
  8. Defnyddiwch fforc i greu marciau rhisgl. Ysgeintiwch gyda'r powdwr coco.

Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?