S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Dan Williams

    calendar Dydd Iau, 10 Chwefror 2022

  • Panna cotta siocled gwyn

    Cynhwysion

    • 400ml hufen dwbl
    • 400ml llaeth
    • 100g siocled gwyn
    • 5 deilen gelatin
    • 3 llwy siwgr castir
    • 1 llwy de pâst fanila
    • 250g mafon
    • 1 llwy mêl
    • 1 llwy finegr mafon
    • 10 x bisgedi amaretti

    Dull

    1. Cynheswch y hufen a llaeth mewn sosban.
    2. Gosodwch y dail gelatine mewn jwg dŵr oer i meddali.
    3. Tynnwch y llaeth a hufen bant y gwres a'i cymysgu mewn i'r siocled a fanila. Ychwanegwch y gelatine a siwgr i'r cymysgedd yna trowch i greu cymysgedd esmwyth.
    4. Arllwyswch mewn i gwydrau a gadwch yn yr oergell am o leiaf 3 awr.
    5. Am y chutney mafon, cynheswch y mêl a finegr mewn sosban ac ychwanegwch y mafon. Cynheswch yn ofalus.

    Rysáit gan Dan Williams, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

    Ryseitiau Prynhawn Da

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?