S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Fflapjacs ffantastig

Cynhwysion

  • 175g menyn
  • 250g ceirch uwd
  • 125g siwgr brown meddal
  • 55g triog melyn
  • 50g ffrwyth a cnau cymysg

Dull

  1. Gosodwch y menyn, triog a siwgr mewn i sosban.
  2. Cynheswch dros dymheredd isel am 2-3 munud a throwch nes iddo doddi.
  3. Ychwanegwch y ceirch a chymysgwch yn dda.
  4. Arllwyswch y cymysgedd mewn i dun pobi a gwasgwch lawr yn defnyddio spatula.
  5. Pobwch am 25 munud nes yn euraidd ond yn feddal.
  6. Tynnwch allan o'r ffwrn a gadwch am 10 munud i oeri ychydig.
  7. Torrwch mewn i sgwariau a gadwch i oeri yn y tun.
  8. Storiwch nhw mewn bocs aerglos.

Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Instagram: @lisafearncooks

Twitter: @lisaannefearn

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?