S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Richard Holt

    Richard Holt

    calendar Dydd Gwener, 10 Medi 2021

  • Cacen dê siocled

    Cynhwysion

    Teisen frau:

    • 250g o flawd
    • 150g menyn meddal
    • 60g siwgr caster

    Mafon:

    • llond llaw o fafon

    Malws melys:

    • 100ml sudd lemon
    • 250g siwgr caster
    • 40g hylif glwcos
    • 6 deilen gelatin (neu 20g o bowdwr gelatin)
    • 75g gwynwy

    Dull

    Teisen frau:

    1. Cynheswch y popty i dymheredd o 170°C
    2. Cymysgwch y menyn a'r siwgr gyda'i gilydd mewn powlen nes yn hufennog. Hidlwch y blawd a'i ychwanegu yn raddol at y gymysgedd menyn a siwgr. Yna, defnyddiwch wres eich dwylo i ddod â'r gymysgedd at ei gilydd nes yn gadarn.
    3. Rholiwch y toes rhwng ddau damaid o bapur pobi neu matiau silicon. Priciwch gyda fforc a'i bobi am 10 munud.
    4. Yna, yn gyflym, torrwch gylchoedd o'r teisen frau tra mae'n boeth (mi fydd hyn yn atal y teisen frau rhag cracio os yw'n setio rhy galed)
    5. Gadewch i oeri.

    Mafon:

    • Ar gyfer y tu mewn, blendiwch lond llaw o fafon cyn ei hidlo i gael gwared o'r hadau. Rhowch y gymysgedd mewn mold hanner sffêr a'i osod yn y rhewgell.

    Malws melys:

    1. Ychwanegwch y dail gelatin i mewn i bowlen o ddŵr rhewllyd a'i gadael i agor. Unwaith maen nhw wedi agor, gwasgwch y dŵr allan a'i rhoi i un ochr.
    2. Chwipiwch y gwynwy gyda chymysgwr.
    3. Mewn sosban, ychwanegwch y sudd lemon, siwgr caster a'r hylif glwcos a'i adael i ferwi. Parhewch i'w ferwi nes ei fod yn cyrraedd tymheredd o 116°C.
    4. Chwipiwch y gwynwy yn gyflym tra'n ychwanegu'r surop poeth lawr ochr y fowlen. Unwaith y byddwch chi wedi ychwanegu'r surop i gyd, stopiwch chwipio'r gymysgedd er mwyn ychwanegu'r gelatin. Trowch y cymysgwr ymlaen eto yn araf nes bod y gelatin wedi hydoddi yn gyfan gwbl. Trowch y cyflymder yn uwch nes bod y malws melys yn edrych yn stiff.
    5. Rhowch y gymysgedd mewn bag i'w beipio, yna rhowch y piwrî mafon wedi ei rewi ar y cylchoedd o deisen frau cyn peipio'r malws melys ar ei ben.
    6. Unwaith fyddwch chi wedi gorchuddio pob tamaid o'r teisen frau, gadewch i oeri yn yr oergell tra eich bod chi'n toddi'r siocled.
    7. Toddwch y siocled mewn bain-marie a'i adael i oeri ychydig cyn ei ddefnyddio. Arllwyswch lond llwyaid dros bob cacen de cyn eu rhoi yn ôl yn yr oergell. I addurno, rhowch ddeilen aur ar ben pob cacen a mwynhewch!

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Anrhegion Melys Richard Holt.

    Rysáit gan Richard Holt.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?