S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cacen ffrwyth nwydus a crymbl cnau coco

Cynhwysion

  • 250g menyn meddal
  • 250g siwgr castir
  • 4 ffrwyth nwydus
  • 1 llwy fwrdd past fanila
  • 5 ŵy
  • 250g blawd codi
  • 1 croen oren

Ar gyfer y crymbl:

  • 30g menyn
  • 30g blawd plaen
  • 30g cnau coco
  • 20g siwgr castir

Hufen mascarpone:

  • 250g mascarpone
  • 30g siwgr eisin
  • 2 ffrwyth pasiwn

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 160°c| 150°c ffan | Nwy 3.
  2. Leiniwch tun pobi 20cm gyda phapur pobi.
  3. Defnyddiwch lwy i dorri allan y 4 ffrwyth pasiwn mewn i bowlen. Gwaredwch yr hadau ond cadwch y sudd.
  4. Chwipiwch y menyn, siwgr a fanila nes mae'n feddal.
  5. Mewn a'r wyau, 1 ar y tro.
  6. Yna ychwanegwch sudd y ffrwyth pasiwn, blawd a chroen oren.
  7. Arllwyswch hyn i gyd mewn i'r tun pobi.
  8. Rwbiwch y menyn a blawd ynghyd nes yn "clumpy".
  9. Ychwanegwch y coconyt a siwgr ar ben y gacen yna pobwch am 1 awr.
  10. Gadwch i oeri.
  11. I greu'r frosting – cymysgwch y mascarpone a siwgr eisin at ei gilydd efo'r sudd oren a chnawd 2 ffrwyth pasiwn.
  12. Torrwch y gacen mewn hanner yn llorweddol a gwasgarwch y frosting drosodd un ochr y gacen, cyn gosod y ddau hanner nol at ei gilydd.
  13. Ychwanegwch Siwgr eisin ar ben y gacen yna mwynhewch!
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?